Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

abeth hefyd oedd enw ei famgu, gwraig Dafydd Samuel, Brynyr odyn, Tirgwyn wedi hyny. Yr oedd Dafydd Samuel yn un di-broffes y rhan fwyaf o'i oes, a phan aeth i broffesu, i Eglwys y plwyf yr aeth. Yr oedd Dafydd, fel y rhai ddaeth ar ei ol, yn un penderfynol iawn am ei ffordd, a byddai hithau Beti, yn gadael iddo ar unwaith, er mwyn tangnefedd y teulu. Oblegid hyny yr oedd wedi enill cymaint o'i ymddiried, fel yr oedd yn rhaid cael ei barn ar bob achos. Daeth rhyw achos pwysig iawn yn ei olwg ef, yr hwn yr oedd yn rhaid cael barn Beti arno, pan yr oedd hi wedi myned i Langeitho. Yn hytrach na phenderfynu o hono ei hun, aeth yntau i Langeitho. Gwelodd hithau ef trwy y ffenestr, ac aeth allan ato yn ddioedi; ac wedi gofyn iddo am achos ei ddyfodiad, dywedodd fod yno achos ag yr oedd yn rhaid ei chael i'w benderfynu. Aeth gydag ef ymaith ar unwaith. Yr oedd Mr. Rowlands yn ei hadnabod yn dda, a gwelodd hi yn cael ei galw ymaith ar ganol yr odfa; a chan fod ei galon mor lawn o deimlad, gweddiodd yn daer drosti ar ddiwedd yr odfa, gan ddweyd, ymysg pethau eraill, "Cychwynodd o gartref gan adael pobpeth yn dda, ond rhai y'n ni na wyddom beth a ddigwydd mewn diwrnod—y nerth yn ol y dydd, y nerth yn ol y dydd, Arglwydd, beth bynag ydyw," nes yr aeth yn deimlad angerddol trwy y dorf. Gellid meddwl fod tuedd Dafydd i ymollwng gyda'i dymherau, a mynu ei ffordd; a penderfyniad Beti, ar y prydiau hyny, i ddilyn ffordd tângnefedd, a ddaeth, dan ddylanwad Ysbryd Duw, yn fendith i'w thylwyth, ac hefyd i'r Cyfundeb ac i grefydd, trwy ei mab Evan, a'i hŵyr Jenkin Davies.

Yr oedd Tirgwyn yn lletya yr holl bregethwyr a ddeuai i Pensarn, a thrwy hyny, cafodd Jenkin gyfleusdra i'w hadnabod, a hwythau i'w adnabod yntau. Gofynai y Parch. Ebenezer Morris yn fynych i'w rieni "Beth fydd y bachgenyn hwn?" Pan ofynodd Mr. Morris i ysgol Pensarn pa bryd y dechreuodd yr oruchwyliaeth efengylaidd; wedi hir ddistawrwydd, atebodd Jerkin "Marwolaeth Crist oedd gorpheniad yr Hen Oruchwyliaeth, a'i adgyfodiad oedd dechreuad y Newydd." Yr oedd ei awydd am wybodaeth yn