Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddidor, o'i febyd, a dysgodd y Beibl mor gyflawn, fel y dywedodd y Parch. Ebenezer Richards wrtho, "Dylech chwi ofni yn fwy na neb o honom rhag gwneyd defnydd o'r Beibl pryd na ddylech, oblegid y mae genych ar ben pob bys.". Yr oedd yn gallu ei ddefnyddio yn ei bregethau a'i anerchiadau ar bob achlysur, fel y dywedodd yr un gwr am dano,—"Nid oes eisiau i ni ofni Jenkin Davies pan fyddo yn myned trwy'r gors, gan y bydd yn sicr o ofalu bod ceryg ddigon dan ei draed." Cafodd ysgol ddyddiol fwy na'r cyffredin yn ei amser, ac yr oedd penderfyniad y tylwyth yn amlwg ynddo gydag addysg, gan y mynai feistroli gob gwers, costied a gostiai o lafur iddo. Bu yn yr ysgol yn Llwyndafydd, Aberteifi, Capel y Fadfa, a Ceinewydd, lle y cafodd fantais ragorol, gan fod llyfrgell dda gan ei feistr, at yr hon y cyrchai yn fynych.

Priododd âg Elizabeth Davies, merch Synod Isaf; a noswaith y briodas yn Synod Uchaf, ffermdy lle yr oeddynt i fyw ar ol hyn, pregethodd Mr. Morris, Twrgwyn, oddiar 1 Cor. vii. 30, yn ol arferiad dda llawer yn y dyddiau hyny. Pan yn llawn 28ain oed, dechreuodd bregethu, wedi hir gymell arno, a disgwyl llawer wrtho. Buy Parchn. Ebenezer Morris, a David Evans, Aberaeron, yn Pensarn, yn ymddiddan âg ef dros y Cyfarfod Misol, Chwefror 23ain, 1825. Yr oedd yn bregethwr mawr ar unwaith yn nghyfrif y rhai mwyaf meddylgar, ac aeth son am dano yn fuan trwy yr holl wlad. Ordeiniwyd ef yn Nghymdeithasfa Aberteifi, Awst 1833. Cafodd ei alw i lenwi holl gylchoedd y Methodistiaid, pregethu yn y Cymanfaoedd, myned i Lundain a Bristol, a pha le bynag yr elai, yr oedd ei weinidogaeth yn gymeradwy gan y saint. Yr ydym yn ei gofio unwaith yn pregethu; nid oedd yn dal o gorff, yr oedd yn sefyll yn syth, ac heb symud fawr yn y pulpud, ond symudai ei ben i fyny ac i lawr, fel yn amneidio ar y gynulleidfa i dderbyn y gwirioneddau. Wynebpryd duaidd oedd ganddo, gwallt du, a hwnw yn hytrach yn sefyll i fyny yn anniben ar ei dalcen. Nid wyf yn cofio pa ddylanwad oedd ei weinidogaeth yn gael, ond clywais lawer wedi hyny o fawrygu ar Jenkin Davies, fel un o oreuon y pulpud. Nid oedd ganddo lais soniarus, ac nid ym-