Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddangosai fel yn cynhyrfu fawr wrth fyned ymlaen, ond traddodi yn ddwys o'r dechreu i'r diwedd, gyda drychfeddyliau rhagorol, frefn oleuedig a choeth, a'r adnodau yn yr holl bregeth fel "afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig."

Wedi byw am 15 mlynedd yn y fferm a nodwyd, gan weithio yn galed arni y dydd, ac astudio y nos, symudodd i Twrgwyn, i gymeryd gofal yr achos, fel bugail yno ac yn Salem, a hyny ar alwad daer yr eglwysi. Yr oedd hefyd wedi cael ei alw i fod yn fisol yn Capel Drindod, ar ol marwolaeth Mr. Richards, Tregaron. Yr oedd y ddwy alwad bron yr un pryd, yn 1838. Bu fyw yn y Moelon Uchaf, yn ardal Twrgwyn; ac oddiyno symudodd i Nantgwylan, lle y bu farw ar y 10fed o Awst, 1842, yn yr oedran cynar o 44. Rhwng pob math o alwadau arno, fel areithiwr ar ddirwest, ar y Feibl Gymdeithas, a'r holl waith a osodai y Cyfarfod Misol arno, heblaw ei ofal bugeiliol, yr oedd yn gweithio ei hunan allan yn gyflym. Aeth i Gymdeithasfa Llanbedr yn niwedd Gorphenaf, a chan fod yr hin yn wlyb, cafodd anwyd trwm, yr hyn a waethygodd ei iechyd yn fawr. Yr oedd y Gymdeithasfa wedi gosod arno, draddodi y Cyngor ar ordeiniad pregethwyr yn y Gymdeithasfa ddilyno!, a gorphenodd ef yn ei gystudd. Dywedai wrth frawd oedd yn ymweled âg ef, iddo gael mwy oddiwrth yr Arglwydd yn ei gystudd nag a feddyliodd a gawsai byth yn y byd hwn. Rhyw fath o dwymyn boeth oedd ei glefyd, a byddai ei feddwl weithiau yn dyrysu, nes iddo fyned yn bryderus am dano ei hun, y dywedai rywbeth fyddai yn "waradwydd i'r ynfyd." Pan welodd mai marw yr oedd, galwedd y teulu oll, gan eu cynghori yn ol eu hamgylchiadau. Wedi deal! mai twymyn boeth oedd ei glefyd, yr oedd yn fynych yn dweyd y geiriau hyny, "Gogoneddwch yr Arglwydd yn y dyffrynoedd," a defnyddiai hi fel y mae yn Saesneg," Gogoneddwch yr Arglwydd yn y tanau." "Yr wyf fi yn y tanau heddyw," meddai "yn y fever boeth; O, am gael gogoneddu yr Arglwydd yn y tanau." Ac ail adroddai y geiriau drosodd a throsodd. Fel y nodwyd yn barod, bu farw ar y 10fed o Awst, 1842, a chladdwyd ef yn mynwent Llandisiliogogo, yn agos i