Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pensarn. Mab iddo ef oedd y diweddar David Jenkin Davies, Ysw., U.H., Aberystwyth. Cyhoeddwyd Cofiant iddo, gwerth chwe'cheiniog, gan y diweddar Barch. Abel Green, a Mr. John Richard Jones, Aberaeron, yr hwn sydd yn llyfryn gwerthfawr iawn fel coffadwriaeth am dano.

PARCH. JOHN DAVIES, BLAENANERCH.

Mab ydoedd i Stephen ac Eleanor Davies, Cyttir mawr, ffermdy yn agos i'r ffordd fawr, ar y dde, wrth fyned o Blaenanerch i Aberteifi. Yma y treuliodd ef, a'i frawd, y Parch. David Davies, Twrgwyn, eu mebyd a'u hieuenctid. Ganed ef yn 1827, dechreuodd bregethu yn 1850, ordeiniwyd ef yn Llangeitho, yn "Sasiwn y diwygiad mawr," fel ei gelwir, yn Awst 1859, a bu farw Ebrill 26, 1891, yn 64 oed, wedi bod yn pregethu am oddeutu 41 o flynyddoedd. Aeth i'r Bala yn 1852. Wedi gorphen ei addysg yno, bu yn cadw ysgol yn Blaenanerch am flwyddyn. Yna, ar gais y Cyfarfod Misol, ymgymerodd a bugeiliaeth yn Llandyssul a Waunifor, Yma yr oedd gofal y pulpud i gyd arno ef. Wedi priodi â Miss Harries, Castell Henry, symudodd yno i fyw, ac adnabyddid ef dan yr enw John Davies, Woodstock. Er na fu y briodas ond bèr, bu ef yno yn byw gyda'i dad-yn-nghyfraith am flynyddoedd. Ymgymerodd tra fu yno â gofal y weinidogaeth a'r fugeiliaeth yn Penffordd a Gwastad. Yn y diwedd, wedi gwrthod galwadau i leoedd gwell, daeth yn ol i'w hen ardal ar ol cael galwad i Aberporth a Blaencefn. Dyna wahanol symudiadau ei fywyd. Priododd drachefn & Miss Hannah Williams, Glanffurddyn, yr hon sydd wedi ei gadael yn weddw gyda chwech o blant ieuainc iawn.

Fel dyn, yr oedd yn feddianol ar feddwl penderfynol, a safai yn gadarn fel craig dros yr hyn a ystyriai yn briodol a chyfiawn. Fel cyfaill, yr oedd ef yn un o ymddiried. Gellid bod yn sicr y byddai ei ochr ef yn gywir tra byddai pethau yn sefyll fel yr oedd ef yn credu y dylent. Nid oedd yn hawdd nesau ato, ond wedi nesau, cawsid ei fod yn meddu ar elfenau cyfaill o'r iawn ryw. Oblegid ei fod yn cael ei flino yn fawr gan ddiffyg traul am flynyddoedd, nid oedd yn