Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gallu bod mor fywiog a chyfeillgar ag y dymunai fod yn fynych. Fel Cristion, yr oedd uwchlaw amheuaeth. Yr oedd yn weddiwr mawr, cofir ei weddiau yn hir mewn cyfarfodydd cyhoeddus, ac wrth yr allor deuluaidd. Yr oedd yntau yn hoff o ganu, fel ei frawd, a mynai ganu yn yr addoliad teuluaidd ymhob man, os gwelai fod yno ychydig ddefnyddiau at hyny. A rhwng y canu gwresog a'r weddi daer dros y teuluoedd, yr oedd meddwl uchel o hono gan lawer o deuluoedd, a pherarogl hyfryd ar ei ol. Yr oedd yn hoff o'r difyr, ond nid heb yr adeiladol; a phan yn ymddiddan, os byddai hyny am symudiadau yr achos crefyddol, gwelid ef yn ei elfen.

Dyna John Davies yn y pulpud, ac y mae yn awr yn ei le. Mae pawb yn addef ei fod yn bregethwr, ac yn un o'r pregethwyr goreu. Mae natur a gras wedi ei gymhwyso at y lle y mae ynddo yn awr. Mae yn dal ac yn esgyrnog o gorff, ond hytrach yn deneu. Ei ben yn sefyll ymlaen ac yn gam, a'r ysgwyddau yn uchel a llydain. Y wynebpryd yn dduaidd a thrymaidd. Genau llydain, a'r ên isaf fel yn symud o un ochr i'r llall wrth siarad. Y llais yn ddwfn a mawreddog; y mae hwn ynddo ei hun yn ddigon i gynyrchu disgwyliad yn y gynulleidfa am bregeth dda a hwyl go lew. Mae yn aflonydd iawn, yn symud o un ochr i'r pulpud i'r llall, a hyny yn barhaus, gan roddi ei law ddehau yn gadarn ar ymyl y pulpud, y tu dehau i astell y Beibl a'r Llyfr Hymnau, yna yn symud i'r ochr chwith gan daro y llaw chwith yn gadarn, ar ochr chwith i astell Beibl. Felly yn barhaus, ond yn wylltach yr olwg, a'r llais yn codi, ac yn dyfod yn fwy clochaidd. Medr ehedeg yn uchel, a chloddio yn ddwfn. Mae wrth ei fodd; ïe, mae ar ei wên, pan gydag

"Uchelderau maith ei Dduwdod,
A dyfnderau mawr ei ddyndod,"

yn enwedig os bydd hwyl; neu ymddengys y cymhariaethau a'r farddoniaeth i raddau yn glogyrnaidd ac os bydd hwyl, y mae yr oll yn ogoneddus. Gyda'r pregethau ymarferol, megis ar y geiriau "Bydded genyt sêl," "Deffro, deffro, gwisg dy nerth Seion," yr oedd bob amser yn dda. Clywsom bregethau rhagorol ganddo ar y