Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

geiriau, "Yr hwn ni waeth bechod, a wnaeth efe yn bechod drosom ni, fel i'n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef;" "ond y corff sydd o Grist;" "Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf-anedig pob creadur;" "Trowch eich wynebau ataf fi holl gyrau y ddaear," "Canys myfi ydwyf Dduw, ac nid neb arall." Gellir dweyd ei fod fel pregethwr yn deilwng o'r lleoedd uchaf yn y Cyfundeb; a gobeithio y gwelir llawer o'i bregethau yn argraffedig eto.

Yr oedd yn llenor da. Ysgrifenodd lawer o erthyglau i'r Traethodydd, ac i amryw gyhoeddiadau eraill, heblaw y Cofiant a ysgrifenodd, yn gyfrol haner coron, ar ol y Parch. John Jones, Blaenanerch. Ond cyn gweled John Davies yn gyflawn, rhaid i ni gymeryd golwg arno yn holl gylchoedd ei fywyd fel dyn, Cristion, a bugail. Ac i ni gymeryd yn ganiataol mai mewn "llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro," ac na welir neb heb ei fai, gellir meiddo dweyd am dano iddo enill gradd dda o anrhydedd a defnyddioldeb, fel meddyliwr cryf ac astudiwr caled, fel gweithiwr diflino gydag amcanion cywir, fel pregethwr rhagorol yn y pulpud, ac areithiwr dirwest a gwleidyddiaeth o radd uchel, ac fel un yn cymeryd dyddordeb cyffredinol yn ngweithrediadau y Cyfundeb yn ei sir ei hun ac ymhob man. Nid codi i fyny i ddweyd rhywbeth ar fater y seiat gyffredinol yn y Cyfarfod Misol y byddai, ond myned i fewn iddo, a dyfod a phethau newydd a hen allan o hono, a hyny gyda gwresogrwydd ysbryd ac egni corff nes cynhyrfu y gynulleidfa, ac adeiladu crefydd ysbrydol Teimlir colled fawr ar ei ol yn hyn, yn gystal ag fel holwr ysgol adeiladol mewn Cymanfa, a rheolwr cyfarfod eglwysig gartref gyda'r saint. Dioddefodd boerau mawrion yn ei ranau tufewnol am wythnosau, ac yn y diwedd, cafodd ei daro gar y parlys mud, nes myned allan o gymdeithas marwolion cyn myned i "gymanfa a chynulleidfa y rhai cyntaf-anedig." Claddwyd ef yn mynwent capel Blaenanerch.