E
PARCH. THOMAS EDWARDS, CWMYSTWYTH.
Mab ydoedd i James a Sarah Edwards. Ganed ef yn Nantgwine, Cwmystwyth, Mehefin 30ain, neu Gorphenaf laf, 1824. Ni chafodd lawer o addysg foreuol, ac ni adwaenem neb wedi gwneyd mwy o'r addysg a gafodd. Yr oedd ei dad yn cadw siop, ac ni feddyliai ond i'w unig fachgen oedd yn fyw i fod yn siopwr fel yntau. Ond gan na ddaeth y siop ymlaen gystal ag y disgwylid, myned i weithio i waith plwm y gymydogaeth a wnaeth Thomas, a hyny nes cael ei ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth. Wedi ymgymeryd a chrefydd o ddifrif, daeth ei gynydd yn amlwg i bawb, fel y cafodd yn fuan bob swydd o ymddiried yn yr Ysgol Sabbothol ac yn yr eglwys, megis athraw, arolygwr, areithiwr hyawdl ar bron bob mater; ac yn y diwedd, dewiswyd ef yn yn flaenor yn yr eglwys, pan oddeutu 27ain oed.
Er cael ei godi i fyny yn yr eglwys, gwrthgiliodd am rai blynyddoedd, hyd nes iddo gael ei argyhoeddi yn ddwfn o'i bechadurusrwydd. Bu mewn tywydd mawr, ar ol rhyw bregethau fu yn wrando yn y capel, a disgwyliai gael rhyddhad i'w feddwl yn Nghymdeithasfa Aberystwyth, lle yr oedd llawer o'r enwogion yn pregethu, ond dyfod adref dan ei faich a wnaeth, ac yn fwy llethol ei feddwl. Boreu Sabbath ar ol hyny, pan oedd cymydog iddo yn pregethu, sef y diweddar John Jones, Ysbytty, cafodd yr hyn a ddymunai, a gorlanwyd ef o lawenydd. Ar ol hyny drachefn, bu mewn ymdrechfeydd celyd âg anghrediniaeth, ond mewn gweddiau a myfyrdodau yr oedd yn cael goruchafiaeth trwy yr Hwn a'i carodd.
Yr ymrysonfeydd mwyaf celyd fu yn ei feddwl oedd ynghylch dechreu pregethu. Wrth weled ei ddefnyddioldeb ymhob cylch, a'r gallu rhagorol oedd ynddo i siarad ar faterion crefyddol, cymhellid llawer arno i ddechreu ar y gwaith. Ond ni ddechreuodd neg bod yn llawn 30ain oed, yn wr priod a thad i blant. Daeth allan, fel y gallesid disgwyl, yn bregethwr da a chymeradwy ar unwaith, gan