Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

roddi lle i ddisgwyl fod iddo le mawr yn y weinidogaeth eto, fel y bu yn y cylchoedd eraill o'r blaen. Llafuriai yn wyneb llawer o anfanteision. Yr oedd yn byw mewn lle anghysbell rhwng mynyddoedd, a bron bob taith Sabbothol ymhell oddiwrtho. Yntau yn gweithio yn y gwaith ar hyd yr wythnos, heb gael fawr o hamdden i ymbarotoi ar gyfer y pregethu.

Ordeiniwyd ef yn Llanbedr yn y flwyddyn 1862. Yna rhoddodd i fyny y gwaith, ac aeth i gadw ysgol ddyddiol yn y Cwm. Y fath anturiaeth i ddyn yn ei amgylchiadau ef? Ni chafodd awr o ysgol ar ol gadael ei bymtheg oed. Bu 15 mlynedd arall yn gweithio yn y gwaith cyn dechreu pregethu, a 6 mlynedd arall a mwy wedi dechreu. Wrth reswm, yr oedd yn rhaid iddo lafurio yn galed i symud y rhwd oedd wedi casglu dros ei feddwl am 21 mlynedd. Nid am chwarter y gauaf, yn ol hen arferiad y wlad, y byddai yn cadw yr ysgol, ond dros yr holl flwyddyn, a myned i'w deithiau Sabbothol hefyd. Daeth i ben a'r oll heb fawr o rwgnach yn ei erbyn; ond bron yn ddieithriaid, byddai gartref boreu Llun i ymaflyd yn ngwaith yr ysgol, er mor bell yn fynych y byddai y Sabbath.

Nid oedd dyfnder mawr yn ei feddyliau, ond yr oedd yn gwneyd i fyny am hyny mewn lled, ac yn nghyffredinolrwydd ei ddefnyddioldeb. Bu yn gadeirydd Cyfarfod Daufisol Dosbarth Cynon, sef ei Ddosbarth ei hun, am flynyddoedd lawer, ac yn gwneyd gwaith bugail mewn amryw o gapeli y Dosbarth. Pentyrwyd amryw o swyddau yn y Cyfarfod Misol i'w ofal, megis ysgrifenydd y Drysorfa Sirol, ac ysgrifenydd y Cyfarfod Misol, ac yr oedd yn gwneyd yr oll yn ddeheuig ac i foddlonrwydd cyffredinol. Yr oedd yn wr hoff gan bawb ei weled a'i dderbyn i'w tai, ac yn un a hoffid yn llawn cymaint yn y pulpud. Yr oedd yn ddyn y bobl ymhob ystyr, ac yn wr o ymddiried ymhob cylch.

Er mwyn y rhai nas gwelodd ef, bydd y desgrifiad canlynol o'i ddyn oddiallan yn ddymunol. Yr oedd o daldra cyffredin, yn deneu o gnawd dros ei holl oes. Gwallt goleu, yr hwn a gafodd ei gadw heb ei golli na gwynu fawr hyd ddiwedd ei yrfa. Talcen llydan