Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac uchel, a'i wyneb yn culhau yn raddol hyd yr ên. Llygaid yn tueddu at fod yn fawr, y canol yn llwyd-oleu a'r cylch gwyn y tu ol i hyny yn llydan ac amlwg. Wrth edrych ar ei wynebpryd mewn cynulleidfa, ymddangosai fel pe byddai dan wasgfa ynghylch y pethau fyddai dan sylw, pa un bynag ai siarad ai gwrando y byddai. Pan ddeuai i'n cyfarfod ar y ffordd, deuai gyda gwên sirioi o draw, ond nid gwên chwerthingar fyddai, er yn llawn o groesaw a chyfeillgarwch. Pan gerddai, yr oedd yn hytrach yn gam, fel pe byddai yn chwilio am waith, ac mewn ysbryd parod ato Yr oedd ganddo lais clir a soniarus, a medrai waeddi yn hyfryd, ond ni chlywid ef nemawr byth yn bloeddio. Yr oedd o ymddangosiad boneddigaidd, ond bob amser yn syml a dirodres.

Yr oedd yn cwyno oblegid gwaeledd iechyd yn fynych, a bu yn gwaelu yn raddol am fisoedd lawer cyn marw, er nad oedd ei gystudd yn boenus iawn. Ysgrifenodd Hunangofiant a Hanes Cwmystwyth yn ei waeledd. A chan fod hwnw wedi ei gyhoeddi, yn llyfryn swllt a deunaw, a hyny mor ddiweddar, ni wnawn roddi rhagor o'i hanes yma. Bu farw am 5 o'r gloch boreu Sabbath, Chwefror 27ain, 1887, yn 62 oed. Dywedodd wrth un oedd yn ymweled ag ef nos Sadwrn, y byddai y trên yn ei gyrchu adref am bump boreu dranoeth, ac felly y bu. Proffwydodd hefyd cyn hyny fod tyrfa o hâd yr eglwys yn dyfod i gymundeb. Yr oedd hyn yr wythnos olaf y bu fyw, a dywedodd ef lawer gwaith. A'r ail Sabbath ar ol ei gladdu, yr oedd rhestr fawr o hâd yr eglwys yn cofio angau y groes am y tro cyntaf. Mae yn debyg iddo gael ei arwain at hyn mewn atebiad i'w weddïau. Cafodd ei gladdu yn y fynwent newydd helaeth sydd o dan y capel, ac efe oedd y cyntaf a gladdwyd yno; ond aeth Mrs. Edwards yn fuan ar ei ol. Yn y Fron yr oeddynt yn byw, lle y mae y merched eto.

PARCH. THOMAS EDWARDS, PENLLWYN.

Ganwyd ef yn Pwllcenawon, ger Penllwyn, yn y flwyddyn 1813, a bu farw Medi 18fed, 1871, yn 58 mlwydd oed. am Bu yn pregethu 38 o flynyddoedd, ac felly dechreuodd bregethu pan yn 20 oed.