Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ordeiniwyd ef yn 1844, yn Nghymdeithasfa Llangeitho. Yr oedd ef yn un o'r efrydwyr cyntaf yn Athrofa y Bala, yr hon a agorwyd yn 1837, gan ei frawd, Dr. Edwards, a brawd-yn-nghyfraith hwnw, sef Dr. Charles, yr hwn a aeth yn athraw Trefecca yn 1842, pan yr agorwyd yr athrofa hono. Yr oedd ef yn ddysgwr da, ond nid cystal a'i frawd Lewis, ac nid oedd ei benderfyniad na'i gyfleusderau yn gymaint. Ar ol dyfod o'r athrofa, ymsefydlodd yn ei ardal enedigol. Priododd ag Anne Edwards, cyfnither iddo, merch y Glascrug, ffermdy yn ymyl ei gartref, ac aeth yno i fyw ati am ychydig; ond gan fod y lle yn fawr, a fferm arall o'r enw Trering gyda hi, rhoisant i fyny y gyntaf, ac aethant i fyw i'r olaf, yr hon oedd yn llai o faint. Ac yn Trering y treuliodd ef y rhan fwyaf o'i oes bregethwrol, hyd nes iddo, yn ei flynyddoedd olaf, adeiladu ty yr ochr arall i'r afon Rheidiol, ac yn agos i'r capel. Bu ef am ychydig yn aelod yn Capel Seion, tra yn byw yn Glascrug. Gyda hyny o eithriad, yn Penllwyn y bu am ei oes, a bu yno yn fugail hefyd am lawer o'i flynyddoedd olaf, ac yn gwneyd gwaith bugail ffyddlawn cyn hyny.

Yr oedd yn dal o gorff, ac yn sefyll yn unionsyth bron bob amser ac ymhob lle. Ni ddarfu iddo dueddu at dewhau erioed, ond dyn teneu, main, a gwanaidd, fu trwy ei oes. Gwallt melyngoch, pen crwn, gwyneb diflew, llygaid siriol, cymharol fawr, gwefusau tewion, gwddf hir, ac ysgwyddau culion. Yr oedd bob amser yn siriol a bywiog pan yn ymddiddan â chyfaill, ac felly gyda phob peth; ond ni ellid dweyd ei fod yn ddyn sharp a brysiog. Mae un peth yn sicr, yr oedd bob amser o ymddangosiad tawel a boneddigaidd, yn parchu pawb, ac yn cael ei barchu gan bawb. Gwisgai yn drws iadus, ac i raddau pell, yn ol y ffasiwn. Eto yr oedd gostyngeiddrwydd yn un o'r llinellau mwyaf amlwg yn ei gymeriad: pan ganmolid ef, byddai yn hawdd g:veled ei fod ef yn dweyd "gwas anfuddiol;" nid oedd yn hawdd gweled byth ei fod ef am fod o flaen ei frodyr, ond bob amser am "eistedd yn is i lawr" na'r lle oedd y bobl yn roddi iddo; a byddaf yn gosod anrhydedd ar y brodyr gwaelaf yn y weinidogaeth, ac ymhob lle arall, ac yn ei