Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

osod ei hun yn y llwch. Diamheu fod hyn i'w briodoli i'w synwyr cyffredin cryf fel dyn, ac i'w ras mawr fel Cristion, yr hyn oedd yn ei wneuthur yn "wr anwyl," hynaws, tirion, a llawn o garedigrwydd.

Yr oedd yn bregethwr rhagorol, ac yn un o'r rhai blaenaf yn ei sir. Nid ellid dweyd ei fod yn bregethwr athrawiaethol, nac yn un dwfn o ran materion, na'i ddull o'u trin; ond yr oedd bob amser gyda chnewyllyn y testyn, gan amcanu o'r dechreu i'r diwedd egluro y gwirionedd i ddeall a chydwybod ei wrandawyr. Ni amcanai dynu sylw ato ei hun, na goglais teimlad y gynulleidfa; ond gwelai pawb mai ei nôd oedd achub pechaduriaid ac adeiladu yr eglwys. Yr oedd y "gwirionedd presenol " o flaen ei lygaid yn ei holl bregethau. Yr oedd yn hawdd gweled fod eglwysi Sir Aberteifi, arferion y wlad, a thuedd yr oes, yn cael eu portreadu o'i flaen pan yn astudio ei bregethau, a phan yn eu traddodi. Siarad ac ymresymu y byddai, gan ddal ei law ddehau i fyny, heb ei chodi i fyny yn uchel iawn, na'i thaflu yn ol ac ymlaen yn wyllt ac annrhefnus. Yr oedd yn egluro ei bwnc o'r dechreu, ac yn ymresymu drosto â'r gynulleidfa, nes y byddai ei ysbryd yn poethi, ei bwysleisiad yn drymach, a'i lais yn dyrchafu, fel y byddai yn myned ymlaen, nes y byddai yn awr a phryd arall yn ysgwyd y dorf. Nid oedd ei lais yn ddawnus, ac ni amcanai at ganu ei bethau; ond daliai i ymresymu a'i wrandawyr yn y poethder mwyaf a'r hwyliau goreu. Yn niwygiad 1859, yr oedd ef yn ail i'r Parch. David Morgan am ddylanwadu ar y wlad, a chadwodd yn ysbryd y diwygiad hyd ddiwedd ei oes. Pregethodd y pryd hwnw ar y "Mab afradlon," "Cyfod, esgyn i Bethel," "Y pethau a lanhaodd Duw na alw di yn gyffredin," &c. Yr oedd ganddo allu desgrifiadol cryf, ac arferai gryn lawer o hono yn y bregeth ar y "Mab afradlon," fel yr oedd yn un o'r pregethau mwyaf effeithiol a wrandawsom erioed. Dangosodd yr afradlon yn myned o dŷ ei dad, yn y wlad bell, ac yn dyfod yn ol, gan ddangos ei wrandawyr o hyd yn yr oll, nes yr oedd teimlad angerddol trwy yr holl le. Ond nid oedd ef yn ymollwng gyda'r teimlad, fel ag i beidio egluro ei destyn. Yn y bregeth hon dywedai, "Nid wyf fi yn meddwl mai