Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y diafol oedd un o ddinaswyr y wlad hono,' ond un o'r hen bechaduriaid mwyaf,—un digon hen mewn pechod, a digon hynod ac adnabyddus, nes bod yn un o'r dinaswyr." Gofynai hefyd, "Paham na byddai yn dweyd wrth ei dad, Gwna fi fel un o'th weision cyflog?" Aeth dros y gwahanol farnau, a dywedodd mai yr oreu ganddo ef oedd yr olwg gariadlawn, faddeuol, a thosturiol oedd ar ei dad yn ei gyfarfod, barodd iddo adael y rhan hono o'r phrase oedd ganddo yn ei feddwl ar ol. Yna rhoddodd ddesgrifiad o olwg y Tad, gan wneyd defnydd o honi i gymell pechaduriaid ato. Clywsom ef ar haf sych iawn yn pregethu ar noson waith ar y geiriau, "Er i'n hanwireddau dystiolaethu i'n herbyn, eto gwna di er mwyn dy enw," &c. Bu llawer o son am y bregeth hon yn yr ardal lle ei traddodwyd. Pregeth a wnaeth lawer o les ar hyd y wlad hefyd oedd yr un ar y geiriau, "Gwared y rhai a lusgir i angau."

Nid fel pregethwr yn unig yr oedd Mr. Edwards yn fawr; ond yr oedd yn un o ddefnyddioldeb cyffredinol. Yr oedd yn drefnwr rhagorol yn ei gartref, ac yn y Cyfarfod Misol, a "gwir ofalai " am yr holl waith. Bu am rai blynyddoedd yn ysgrifenydd y Cyfarfod Misol, a bu hyny yn foddion i anmharu ei iechyd, trwy ei ddilyn i bob lle, ac ar bob tywydd, a dioddef llawer o oerfel ynddynt. Yr oedd rhan isaf y sir, a'r ganol hefyd, yn ystyried y cyfarfod yn bur gyflawn ond ei gael ef a Mr. Roberts, Llangeitho, iddo. Ond oblegid ei wyleidd-dra naturiol, a'i ddiffyg ymddiried ynddo ei hun, nid aeth gymaint o gartref i siroedd eraill a llawer o'i frodyr; ond y mae hanes ei fod wedi pregethu yn rhagorol mewn rhai Cymanfaoedd. Ond gartref yn ei sir ei hun yr oedd ef yn fawr, ac mewn amryw leoedd yn Meirionydd. Yr oedd ynddo hefyd gymwysderau llenor gwych. Nid ymarferodd ei hun i ysgrifenu fawr ar a wyddom ni, nes i'r Arweinydd gael ei gychwyn yn 1862, dan ei olygiaeth ef a'r Parch. Griffith Davies, Aberteifi. Heblaw ei gydolygu, ysgrifenodd erthyglau iddo ar "Y Gair a'r Ysbryd," "Gair at flaenoriaid eglwysig," mewn dwy erthygl; "Gair at bregethwyr ieuainc," "Gair at rieni a phenau teuluoedd," "Ymgom rhwng