Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Simon Pedr a Simon y Phariseaid," mewn tair erthygl; "Brawdgarwch," "Paul yn y cyfarfod eglwysig;" mewn dwy erthygl, &c. Mae yr erthyglau olaf ar y cyfarfod eglwysig am y dull o'i gadw yn fwyaf neillduol. Dywedir ei fod ef yn teimlo mai hwn oedd y cyfarfod y pryderai fwyaf yn ei gylch; a dywedai pa mor llawen oedd pan oedd Mr. Roberts, Llangeitho, yno i'w gadw ryw dro. "Yr oeddwn yn myned yno," meddai, "yn ysgafn fy nghalon, dim ond gweddio am lewyrch arno." Gwelir yn ei ysgrifeniadau ei fod ef, fel ei frawd o'r Bala, yn hoff iawn o'r dull ymddiddanol o ysgrifenu.

Dywedai wrth fedyddio, "Mae yn ddrwg genyf na chefais i blentyn i mi gael ei roddi i'r Arglwydd; byddai genyf felly etifeddiaeth i'w rhoddi iddo o eiddo fy hun; ond yr wyf fel yma yn cael y fraint o gydymuno âg eraill i roddi rhai iddo," &c. Gyda golwg ar bregethwyr a gwneyd pregethau, dywedai, "Yr oedd dau ysgubellwr, ac un o honynt yn gwerthu islaw y llall, yn digwydd siarad â'u gilydd, a gofynai un i'r llall 'Pa fodd yr wyt yn gallu eu gwerthu mor rhad, yr wyf fi yn methu cael dim ynddynt er lladrata y brigau bron i gyd.' 'O druan,' meddai y llall, 'yr wyf fi yn lladrata y cwbl.' Felly am danɔ' ni y pregethwyr, mae pawb o honom yn lladrata peth, ond gobeithio nad oes neb yn eu dwyn yn grynion." Pan yn adrodd rhesymau rhai dros beidio ymuno â chrefydd, dywedai, "Cwrddodd crefyddwr â dyn di—grefydd, a chymhellodd ef i wneyd proffes, ond ni roddai gydsyniad i ddim, ond beiai grefyddwyr ei ardal yn fawr iawn. Cwrddodd yr un dyn âg ef drachefn, a gofynodd, 'Pa fodd yr ydych yn awr; ni y crefyddwyr sydd yn eich blino eto mi waranta.' 'Na,' meddai y dibroffes, 'Yr wyf wedi gadael hyny yn awr, yr wyf yn edrych ar y ffordd yma, er fod tlodion, cloffion, a rhai drwg ei cymeriad yn ei thrafaelu, nid yw hyny yn ei gwneyd yn waeth i mi.'" Am y cyfarfod eglwysig dywedai, "Un dda yw y seiat i adeiladu yr eglwys. Mae y naill yma yn helpu a chyfarwyddo y llall, yr hen yn calonogi ieuanc. Fel y clywais am filwyr gyda rhyw faterion yn methu penderfynu ffordd i wneyd, er fod yno gapteniaid, a generals; ond