Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cododd yno hen filwr oedd wedi bod gyda'r enwogion yn mrwydr Waterloo, a dywedodd pa fodd yr oeddynt yn gwneyd y pryd hwnw, nes y tawelodd ac y boddlonodd pawb. Felly ni fydd Seion byth heb rywrai profiadol o bopeth sydd i'w gwneyd a'u dioddef, i'w mwynhau fel cysuron a'u mabwysiadu fel rheolau. Mae yma bobpeth, ond i ni fod yn barod i 'fynegu yr hyn a wnaeth Efe i'n heneidiau.'

Dywedai yn Nghyfarfod y Pregethwyr yn Nghymdeithasfa Gwrecsam, "Yr oeddym ni yn y Deheudir yn rhyfeddu at ddoniau Mr. Elias, ond dywedid wrthym gan bobl Sir Fon, 'Synu at ei ddoniau yr ydych chwi, ond synu at ei dduwioldeb yr ydym ni.' Ei fod yn wr mawr gyda Duw oedd dirgelwch ei lwyddiant. Un o'r pethau effeithiodd fwyaf arnaf fi yn fy oes, oedd clywed pregethwr oedd yn cyd-gysgu gyda mi yn dal i weddio bron drwy y nos. Dywedai ac ail ddywedai y geiriau hyny, 'Llawn yw tywyll leoedd y ddaear o drigfanau trawsder.' Ni wyddai pa un a'i cysgu yr oedd neu ar ddihun. ond dywedai drachefn y penill Gwawria gwawria. hyfryd foreu.' Yr oeddwn ar y pryd bron yn rhy wan i anadlu. Yr oedd cywilydd yn meddianu fy enaid na byddai mwy o ysbryd gweddi ynof finau. Na foddlonwn ar weddio 'Estyn gymorth i ni rhag i ni fyned dan warth, rhag i ni gael ein darostwng yn ngolwg y bobl.' Mae gweddio felly yn dda, ond yn y cyntedd nesaf allan y byddwn; y mae cyntedd arall yn bod, y nesaf i mewn, a phan yr elom i hwnw, i'r sancteiddiolaf, yr ydym yn colli golyg ar ryngu bodd dynion. Dyna fydd mater ein gweddi y pryd hwnw Dyro genadwri ag y byddo ei hargraff ar y bobl am flynyddoedd, ie, am dragwyddoldeb.'" Dalied y darllenydd sylw ar y darn uchod, gan fod dull Mr. Edwards o draddodi i'w weled yn amlwg ynddo, sef aralleirio y peth er mwyn ei argraffu yn ddyfnach ar feddwl y gwrandawyr; ac wrth aralleirio, byddai ei lygaid yn tanio, a'r pwyslais yn llawer trymach, a phawb yn gweled fod yno rywbeth y mynai y pregethwr iddynt ddal arno.

Bu am wythnosau yn glaf. Mwynhaodd lawer o gysuron yr efengyl, ond yr oedd yn ochelgar iawn wrth eu dweyd, fel yr arferai ar hyd ei oes, pan yn adrodd ei bethau personol. Tan ymwelsom