Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ag ef, mynegu ei lawenydd wnaeth am iddo glywed ryw ddyddiau cyn hyny, am ofal manwl ei frodyr wrth ymweled a'r eglwysi. "Gallaf fi fforddio eich gadael," meddai, "mae yma frodyr sydd yn gwir ofalu am yr achos." Cafodd gladdedigaeth tywysog. Nid

oedd mynwent y capel wedi ei chael ar y pryd, felly yn mynwent Eglwys Bangor y rhoddwyd ei weddillion; ond codwyd cofgolofn hardd iddo o flaen y capel. Teimlwyd colled fawr yn yr eglwysi ar ol un oedd mor ilwyr—ymroddgar i waith ei Feistr. Un y gellid dweyd am ei gymeriad fel am y goleuni ei fod yn llewyrchu "fwyfwy hyd ganol dydd." Yr oedd ei ddefnyddioldeb mor fawr fel yr ymddangosai yn beth anmhosibl ei hebgor, hyd yn nod i fyned i'r nefoedd. Ond yno yr aeth, a hyny yn gymharol ieuanc.

PARCH. DANIEL EVANS, CAPEL DRINDOD.

Ganwyd ef yn Cefnllechglawdd, am y ffin a Sir Aberteifi, ac heb fod ymhell o Gapel Drindod. Yr oedd ei dad yn grydd wrth ei alwedigaeth, ac efe oedd yn gweithio i balasdy Llysnewydd. Bu farw yn ieuanc, a chan fod golwg fawr arno yn Llysnewydd, cymerwyd Daniel Evans i fewn i'r palas, a gofalwyd am dano fel mab, a chymerodd yr un teulu hefyd ofal am ei fam. Cafodd lawer o fanteision yno fel Moses yn llys Pharaoh; dysgodd Saesneg, yr hyn a'i galluogodd trwy ei oes i ddeall llyfrau Saesneg. Yn y diwedd, rhoddodd y gwr bonheddig, Mr. Lewis, grefft ei dad iddo, a dysgodd hi yn dda. Priododd â Margaret, merch Griffith Evans, y Ddol, yr hon a gyfrifid yn aelod o seiat Llangunllo, gan mai Mr. Griffiths, yr offeiriad, oedd yn ei chadw, er mai seiat y Methodistiaid ydoedd, a hyny ymhell cyn codi capel Drindod. Wedi priodi, aeth i fyw i'r Cwmins, ar dir Penbeilumawr, a phan yma, cafodd grefydd, tra yr oedd diwygiad mawr yn y wlad. Yr oedd golwg fawr gan y Parch. Ebenezer Morris arno fel dyn ac fel Cristion, a chymhellodd lawer arno ddechreu pregethu. Traddododd ei bregeth gyntaf hefyd o'i flaen yn Tower Hill, gyda Mr. a Mrs. Lewis, teulu a aeth i'r Eglwys yn amser yr ordeinio, Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1797, pan oedd ef yn 23ain oed.