Barn pawb am dano oedd, ei fod yn bregethwr rhagorol; ac y mae y safle a enillodd yn y Cymdeithasfaoedd, Cyfarfod Misol ei sir, ac yn yr eglwysi yn gyffredinol, yn profi ei fod yn cael ei gyfrif yn un o'r pregethwyr goreu yn ei ddydd. Mae genym farn un o'r beirniaid goreu am dano, sef y diweddar Barch. Owen Thomas, D.D., yr hwn a ysgrifenodd atom fel y canlyn:—"Yr oedd Mr. Daniel Evans mor gynefin i ni yn Sir Fon a Sir Gaernarfon a phe buasai yn byw yn ein plith. Y mae yn sicr y byddai yn dyfod heibio i ni bob blwyddyn, ac ambell flwyddyn ddwywaith, os nad tair. Rhoddid ef i bregethu mewn lle amlwg ymhob Cymdeithasfa y byddai ynddi, a gwelais ef rai gweithiau yn cael buddugoliaeth deg ar y gynulleidfa. Achlysurodd un bregeth iddo, yr hon a bregethai yn lled gyffredin ar y daith hono, gryn lawer o ysgrifenu, naill ai yn yr Eurgrawn Wesleyaidd neu yn y Dysgedydd, os nad y naill a'r llall. Y testyn oedd 1 Cor. xv. 22. Yr oedd yn pregethu yn gryf yn erbyn Arminiaeth, ac yn defnyddio rhai geiriau ag y buasai, fe ddichon, yn well iddo eu gadael allan. Yr oedd ganddo Gymraeg da ragorol. Adnabyddid ef yn Sir Fon fel "cefnder i Mr. Christmas Evans." Mae yr hanes uchod yn cytuno a'r hyn ydym yn glywed am dano, sef ei fod yn hoff o esbonio, ac y byddai y rhan fynychaf yn bur feirniadol wrth fyned at achlysur a meddwl ei destyn. Yr oedd y rhan fynychaf bob blwyddyn yn pregethu am 5 o'r gloch bob boreu dydd Nadolig yn Nghapel Drindod, a byddai y prydiau hyny weithiau yn bur feirniadol. Cafwyd gwleddoedd deallol a theimladol ganddo lawer gwaith ar yr achlysuron hyn.
Wele un o'i ddywediadau,——" Meddyliwch yn uchel am eich Ceidwad: mae llawer na feddylient fod ei eisiau felly arnynt; ond y mae lle i ofni fod rhai hefyd a broffesant fod ei eisiau arnynt, a meddwl rhy isel am dano i wneyd Gwaredwr o hono. Mae yn fater bywyd i chwi i chwilio pa fodd y mae rhyngoch â'r Gwr hwn."
Clywsom ef unwaith, a hyny mewn Cyfarfod Misol yn y Penant, ar ol y Parch. Edward Jones, Aberystwyth, am 11 o'r gloch y dydd olaf, a'r odfa olaf mewn Cyfarfod Misol y pryd hwnw. Yr oedd yn ddyn o faintioli cyffredin. Wyneb bychan teneu, a'r holl gorff