Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hefyd yn debyg. Gwallt melyngoch, ond bod arwyddion henaint arno ar y pryd, eto ddim yn gymaint felly a llawer oedd 20 mlynedd yn ieuangach nag ef. Yr oedd tyfiant o faintioli wy petrisen ar ei dalcen, yn union uwchben ei lygad de, os ydym yn iawn gofio. Mae yr un peth ar ei wyr, y Parch. Evan Phillips, Castellnewydd, ond ei fod y tu ol i'w ben ef. Yr oedd yn sefyll yn unionsyth yn y pulpud, a golwg heinyf a bywiog arno, a'i ysbryd hefyd yn llawn yni a gwres. Nid oedd yn gwaeddi, gyda'r eithriad o ambell i floedd fer. Yr oedd ei lais o'r dechreu i'r diwedd yn hyfryd, ac yn glywadwy i bawb. Pregeth fer a llawn o wres fyddai ganddo bron bob amser, fel y mae ei wyr eto. Yr oedd yn deithiwr mawr, a byddai felly yn ei sir ei hun, pryd na byddai ar daith i'r Gogledd na'r De. Mewn llyfr cofnodion yn Abermeurig, yr ydym yn gael Chwef. 15fed, 1831, mewn Cyfarfod Misol, yn pregethu oddiar Salm lxxxviii. 3, a'r Parch. Richard Davies, Llansadwrn, ar ei ol oddiar Act. xiv. 11; Mawrth y 25ain, ar nos Lun, oddiar Act. xiv. 5; Awst 26ain, dydd Gwener, am 12, oddiar Mat. xxv. 6; Tach. 13eg, Sabbath, oddiar Heb. ii. 3; Tach. 19eg, Sadwrn, am 12, ond ni chofnodir y testyn. Mae wedi bod yn debyg yr un nifer o weithiau yma y blynyddoedd eraill. Yr oedd yn un fyddai bob amser yn hynod o flasus ac adeiladol yn pregethu ac yn cadw seiat, fel yr oedd galw mawr am dano, ac yntau yn ymroddi i wasanaethu yr eglwysi yn nheyrnas ac amynedd Iesu Grist.

Yr oedd yn un o ddefnyddioldeb cyffredinol. Efe fynodd yr acer a haner o dir sydd at wasanaeth Abermeurig ar lease o 999. "Mae genyf newydd da i chwi," meddai, "cewch acer a haner o dir hyd yn agos ddiwedd y byd, os yw y mil blynyddoedd mor agos ag y dywed rhai eu bod." Pan ddaeth dirwest i'r wlad, daeth allan yn gefnogol iawn iddo, gan gadw cyfarfodydd yn bur fynych i bleidio yr egwyddor. Ni chafodd gystudd maith. Wrth ei deulu dywedodd, "Gofalwch chwi dderbyn y Ceidwad wyf wedi ei gynyg i'r holl wlad, gofalwch chwi ei dderbyu." "Gyda golwg ar y siwrnai sydd o'm blaen, mae pobpeth yn barod." "Mae yn galed iawn arnoch," meddai un wrtho; ae atebai, "O nag yw, mae y