Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffordd yn ddigon clir, a'r wlad yn eglur o'm blaen." Gwaeddodd allan, gan guro ei ddwylaw, nes y clywid ef allan o flaen y tŷ, sef Penmount, "Diolch, diolch." Yn dywedodd, "Yr oeddwn yn meddwl bod gyda chwi ddwy flynedd eto, ond dim gwahaniaeth, gan mai hyn yw trefn y Gwr; mey cwbl yn barod." Claddwyd ef yn mynwent Eglwys Llanguullo, pan yn 71 oed.

PARCH. DANIEL EVANS, FFOSYFFIN.

Ganwyd a magwyd ef mewn lle a elwid Post House, yn nes ychydig i Aberaeron na chapel Ffosyffin, a hyny oddeutu 1826. Yr oedd yn hynod ymysg ei gyfoedion am ei dalentau er yn blentyn, ac ymhyfrydai mewn darllen a phrydyddu. Cafodd gymhelliadau gan amryw i fyned i bregethu, cyn amlygu hyny o hono ei hun. Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1849. Yr ydym yn gweled dau dderbyn barddonol iddo yn y Geiniogwerth am 1850. Clywsom ddweyd pan oedd yn dechreu pregethu, fod y Parch. Lewis Edwards, D.D., Bala, yn ei gymell i ddyfod ato ef i'r Athrofa, ac yn addaw y cawsai ei ysgol yno yn rhad; a'i fod wedi gwneyd hyny, ar ol gweled yn y darnau, "Angau y groes," a "Fy nghyfaill gollais," gymaint o'r awen farddonol, a thalent ddisglaer. Bu yn y Bala am rai blynyddoedd, a bu yn cadw ysgol yn ysgoldy Henfynyw am ryw gymaint o amser. Yr oedd gyda'r cyntaf yn y sir hon i brynu Alford's Greek Testament ar ei ddyfodiad cyntaf allan, a gwnaeth ddefnydd helaeth o hono.

Yr oedd yn un o'r pregethwyr goreu a fagodd Sir Aberteifi yn y blynyddoedd diweddaf. Yr oedd ei bregethau yn llawn o fater, wedi eu cyfansoddi yn yr arddull goreu; a thraddodai hwynt yn wresog ac yn rymus. Yr oedd fel dyn yn un o'r cyfeillion mwyaf diddan a ellid gyfarfod, yn llawn humour; a chanddo ystorfa dda o ystorïau chwaethus, y rhai y gwyddai pa le a pha bryd i'w defnyddio. Ac er mor ddifyr ydoedd fel cyfaill, ni wnelai byth ddefnydd yn y pulpud o'i allu digymar i wneyd cwmni yn llawen, Yr oedd yn hanesydd ac yn wleidyddwr da, a medrai dori i'r asgwrn os gwelai ddynion yn gwneyd defnydd annheg ac annoeth