Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o hyny o allu a feddent fel gwladwyr. Yr oedd yn ddyn boneddigaidd iawn; teimlai i'r byw dros y gwan a'r anghenus, a medrai barchu pawb yn ol eu safle, o'r uchelwr mewn gwlad ac eglwys, hyd yr iselaf mewn cyfoeth a thalent.

Yr oedd o faintioli cyffredin, gwallt goleu cyrliog, ac yn eillio ei wyneb bron i gyd. Wyneb agored a beiddgar, ac arwyddion o'r frech wen ar hyd-ddo. Cerddai a'i ben i fyny, ac eto ei gorff heb fod yn hollol unionsyth. Byddai ffon y rhan amlaf yn ei law, a dau neu dri o gyfeillion o'i gylch, a byddent y rhan amlaf yn ymddangos yn ddifyr. Oblegid ei fod yn gyfaill mor hoffus, yr oedd rhai fel hyn, hwyrach, yn myned a gormod o'i amser; byddai hefyd ar amserau yn cael ei flino gan guriad y galon, ac oblegid hyny, ni allai ddyfod allan i fod yn llwyrymataliwr. Dichon i'r pethau a nodwyd fod yn beth atalfa ar ffordd llwyddiant, un a allasai ddyfod yn un o gedyrn ac arweinwyr y Cyfundeb. Yr oedd ei alluoedd cryfion, ei farn addfed ar wahanol faterion, ei allu cyflym i weled gwahanol gyfeiriadau y pwnc dan sylw, a'i allu i ymadroddi yn fedrus a dylanwadol arno, yn ei gymhwyso i le mawr fel gweinidog yn ein plith.

Cyfansoddodd farwnadan rhagorol ar ol y Parch. Evan Jones, Ceinewydd, a Dr. Rogers, Abermeurig, y ddwy yn fuddugol mewn cystadleuaeth, a'r ddwy yn cael eu beirniadu gan y diweddar Ieuan Gwyllt. Dywed y beirniad fel y canlyn am y gyntaf, "Yma y mae y bardd a'r athronydd Cristionogol yn cydgyfarfod i fesur helaeth. Y mae ei ieithwedd yn goeth a chlasurol iawn, a’i feddylddrychau yn ddillyn. Nid oes yma ddim ag y gallwn ei nodi fel gwall ieithyddol, na thebyg iddo; y mae pob gair a llythyren yn ei lle, a phob meddwl yn cael ei osod allan yn eglur a chwaethug." Y mae y feirniadaeth yna yn wir am y farwnad arall, ac am ei folawd alluog i Alban Gwynne, Ysw., Monachty, ar ei ddyfodiad i'w oed; ac hefyd am ei bregethau, a'i anerchiadau. 'Yr oedd yn aiddgar iawn dros y Gymraeg, ac yn ordd a deimlid yn drom ar bob Dic Shon Dafydd fyddai yn plygu yn wasaidd o flaen pob peth Seisnig. Unwaith galwyd arno i ddweyd ei destyn, a