Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhoddi ychydig o'r bregeth yn Saesneg. Ni ddywedodd na wnelai, ond ni wnaeth. Ar y diwedd, daeth un ato i'w ddwrdio am anufuddhau, gan ddweyd, er gwneyd y cerydd yn llymach, "Gwnawn i gymaint a hyny sydd heb fod mewn un coleg." Atebodd Mr. Evans ef trwy ddweyd, "Un o'ch bath chwi wnelai hyny, yr wyf fi am brodyr wedi dysgu gormod i beidio troi at y Saesneg heb ymbarotoi yn gyntaf."

Yr oedd yn dra hoff hefyd o'i gartref, a'i berthynasau, a'i gyfoedion, fel nad oedd yn hawdd ganddo eu gadael hyd yn nod i fyned i'w gyhoeddiad. Bu amryw o eglwysi yn gwneyd prawf ar ei gael atynt, ond ni lwyddodd neb namyn Waenfawr, Arfon, lle y bu am bum' mlynedd, ac yna daeth yn ei ol. Bu farw Mawrth 21, 1876, yn 49 oed, a chladdwyd ef yn Henfynyw, bron yn ymyl ei gartref. Ordeiniwyd ef yn 1859, yn Nghymdeithasfa fawr y diwygiad yn Llangeitho.

PARCH. DAVID EVANS, ABERAERON.

Ganwyd ef yn y flwyddyn 1768, a bu farw yn 1825, yn 57 oed. Yr oedd ef a'r Parch. Ebenezer Morris bron yr un oedran, a buont feirw o fewn wythnos y naill i'r llall. Ni chafodd Mr. Evans ond wythnos o gystudd. Cafodd y clefyd y bu farw o hono trwy yfed gormod o ddwfr oer, ar ol chwysu llawer wrth bregethu yn Llangwyryfon, ar Sabbath hynod o wresog. Yr oeddynt yn ei deimlo yn siarad fel o ddrws y nefoedd, wrth bregethu a gweinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Lletyai yn nhy chwaer y Canon Jennings, Archddiacon Westminster, wedi hyny, ond ni chysgodd fawr gan arteithiau poenus yn ei ymysgaroedd. Daeth beth yn well ac aeth adref i Morfa Mawr dranoeth, ond bu farw y Sabbath canlynol, sef Awst 21ain.

Mab ydoedd i Benjamin a Catherine Evans, Pengareg isaf, Aberaeron. Yr oedd yr ieuangaf o bump o blant, ac felly efe a gafodd fod yn y fferm ar ol ei rieni. Pan yn ieuanc, anfonwyd ef i ysgol Ystradmeurig, gan feddwl, feallai, iddo fyned yn offeiriad; ac oblegid rhyw gytundeb rhyngddo ag un arall, cerddodd oddiyno