adref mewn amser anarferol fyr, fel y bu ar ol hyny yn gloff o'i glun ddehau dros ei oes. Trwy ryw anffawd hefyd, aeth ei fraich chwith yn hollol anhyblyg. Gyda'r eithriadau hyn, yr oedd yn ddyn hardd iawn o gorff, yn dal, gyda golwg foneddigaidd, a llais cryf, soniarus. Bu yn cadw ysgol am amser maith yn Dolhalog, yn agos i'w gartref, Yr oedd ei rieni yn aelodau parchus a defnyddiol gyda'r Parch. Thomas Gray yn Ffosyffin. Cafodd yntau ei ddwyn i fyny dan aden crefydd, mor bell ag yr oedd hyny yn myned, er na ddaeth ef ei hun at grefydd nes bod yn 40 oed, ac yn dad plant. Daeth at grefydd trwy i amgylchiad annymunol iawn iddo ef gael ei fendithio i hyny. Yn 1805, cyfarfyddodd ei ferch ieuangaf ag angau trwy gael ei llosgi, ac effeithiodd yr amgylchiad gymaint arno, nes iddo gael digon am byth ar ei fywyd di-weddi, a'i deulu heb ddyledswydd deuluaidd, ac ar beidio rhoddi esiampl dda o grefydd o flaen teulu oedd yn dechreu cael ei fedi i dragwyddoldeb. Gweddiwyd llawer drosto gan eglwys Ffosyffin, lle yr oedd yn un o'r gwrandawyr goreu. Hysbyswyd ni gan un o'i blant, iddo ddarllen a gweddio yn y teulu noson y gladdedigaeth, pryd y daeth goleuni o'r nef ar bawb, fel yr oedd megis noson o gadw pasg i'r Arglwydd. Yn fuan ar ol hyn, yr oedd Gray, yn ol ei arfer, yn pregethu ac yn cadw seiat yn Ffosyffin, pryd yr arhosodd Dafydd Evans, ar ol, ac yr oedd ei brofiad yn synu pawb, fel yr aeth yr odfa yn debyg i odfa y ddyledswydd deuluaidd. Hysbysodd Gray, yr hwn oedd a llygad eryraidd ganddo, mai nid dyn cyffredin oedd D. E. i fod, ond fod gwaith mawr o'i flaen. Mynodd gyfleusdra i ymddiddan âg ef, a chymhellodd ef i bregethu ar unwaith. Yr oedd ei fab, Mr. Benjamin Evans, Postfeistr, Aberaeron, yn arfer dweyd, mai ei dad oedd y tebycaf i'r Apostol Paul a welodd ef erioed—iddo gael crefydd, dechreu pregethu, a phregethu yn Nghyfarfod Misol y sir, a'r oll mewn llai na chwarter blwyddyn. Yr oedd hyn, mae yn debyg, trwy ddylanwad Gray, ac oblegid ei ragoroldeb yntau fel pregethwr. Cafodd ei ordeinio yn Llangeitho, ymhen deng mlynedd ar ol dechreu pregethu.
Aeth yn fuan ar deithiau i Dde a Gogledd. Adroddir hanes iddo