Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gael profedigaeth fawr yn y Gogledd, pryd yr aeth yno gyntaf. Pan yn y ty capel mewn rhyw fan, cyn dechreu yr odfa, daeth dyn ato gan ofyn, "A ydych chwi yn bregethwr?" "Ydwyf yn arfer ychydig â'r gwaith," atebai yntau. "Ai chwi sydd i fod yma heddyw?" "Ië, mae'n debyg." "Ho, wel." Ac ymddangosai y gwr yn ddirmygus iawn o hono. Cafodd y pregethwr help gan Dduw, a chafodd pawb amser gorphwys o olwg yr Arglwydd. Ar ol dyfod allan, dywedodd y brawd uchelfryd, "Wel, cawsoch odfa ragorol iawn, do yn wir; ho, ho; wel, wel." Atebodd Mr. Evans ef trwy ddweyd, "Mi welaf mai ci ydych chwi, yn siglo eich cynffon ar ol cael tamaid o fara. Cynghorwn chwi i fod yn fwy siriol i lefarwyr dieithr o hyn allan, ar eu dyfodiad atoch, er mwyn eu calonogi ar gyfer y gwaith. Yr oedd eich dull o siarad â mi cyn dechreu yr odfa yn ddigon i beri i mi droi yn fy ol, oni bai fod arnaf ofn digio fy Meistr." Dywedir i'r tro wneyd y brawd hwnw yn fwy gochelgar.

Er ei fod yn teithio i Dde a Gogledd, ac yn un o feistriaid y gynulleidfa mewn Cymanfaoedd, a phob lle arall, ond gartref yn y sir y rhagorai. Yr oedd yn fath o fugail yn Ffosyffin, y Penant, Llanon, Rhiwbwys, Blaenplwyf, Llangwyryfon, a Lledrod. Gofalai y Parchn. John Thomas, Aberteifi, ac Ebenezer Morris am eglwysi rhan isaf y sir, ac Ebenezer Richards am y rhai uchaf, yntau y rhai canol. Yn y rhai hyn y ceir mwyaf o'i hanes, ac yn y rhai hyn y mae ei enw yn cael ei anrhydeddu fwyaf, er mai ychydig sydd yn awr yn ei gofio. Bu yn gymorth mawr mewn achosion o ddisgyblaeth, gan ei fod yn hynod mewn callineb, ei olwg mor awdurdodol a boneddigaidd, a'i fod hefyd yn siaradwr da, ac yn gwybod pa fodd i siarad oreu ar bob achos. Y pryd hwnw, bu y smuggling mewn cysylltiad â'r gwêr, â pha un y gwnelid canwyllau, yn peri gofid mawr i'r eglwysi a'r Cyfarfod Misol. Cafodd llawer eu dal yn droseddwyr, a rhai dalu 50p. o ddirwy am beidio talu duty. Yr oedd gwraig gyfrifol yn Llanon wedi troseddu, a dygwyd yr achos o'i flaen ef. A'r diwrnod hwnw, y wraig yma oedd yn cadw y mis. Yr oedd yntau yn gyfarwydd iawn â'r teulu. Ond nid