Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd ef yn ddyn i "barchu wynebau mewn barn." Torodd hi o gymundeb, os nid o fod yn aelod. Wrth fyned i dŷ y capel, daeth y wraig i'w gyfarfod a'r dagrau ar ei gwyneb, gan ddweyd, "Dafydd Evans anwyl, yr oedd genyf olwg arnoch o'r blaen, ond mwy heddyw; yr o'ech chwi yn eich lle, fi oedd ar fai: mae yn ddrwg iawn genyf beri gofid i chwi." "Da genyf eich gweled yn y fath ysbryd," meddai yntau; "gobeithio na fydd dim o hyn mwy." "Yr oedd yn weddiwr mawr, yn astudiwr caled, yn weithiwr cyson, ond hollol ddiflino." Nid gyda'r pregethu a chyfarfodydd eraill y bu yn ddefnyddiol yn unig: llafuriodd lawer gyda'r canu, fel ei feibion ar ei ol; a dywedir fod ei dŷ yn hyn fel tai Heman a Jeduthun. Yn mhoenau ei gystudd, gwaeddai, "Faint yw dyfnder y dwr ?" a chynghorodd ei holl deulu. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys Henfynyw.

PARCH. DAVID EVANS, ELIM.

Mab ydoedd i Evan ac Anne Evans, neu Davies, nid oes sicrwydd beth fynai ei dad oedd ei surname. Gwneuthurwr hetiau oedd ei dad, a dygodd rai o'i blant i fyny yn yr un alwedigaeth. Ond wedi i'r fasnach yn yr hetiau oedd ef yn gyfarwydd â hwy fyned yn isel; bu yn cadw ysgol ddyddiol yn y gauaf am lawer o flynyddoedd, ac yr oedd yn un da iawn o'r fath ag oedd ysgolfeistri yn y dyddiau hyny. Cafodd ei blant, oblegid hyny, well addysg, na llawer, ac felly ei fab Dafydd. Yn Cuwcynduaur yr oedd y teulu yn byw, yn mhlwyf Llanbadarnfach, a phrynodd David Evans wedi hyny y tŷ a'r cae lle y ganwyd ac y magwyd ef. Myned allan i wasanaethu wnaeth D. Evans am rai blynyddoedd, tuag ardal Blaenplwyf yn benaf, a bu yn adyn annuwiol iawn hyd ryw ddiwygiad a dorodd allan yn Blaenplwyf a'r wlad. Y pryd hwnw, cafodd droedigaeth amlwg, a daeth yn fachgen defyddiol iawn.

Dechreuodd bregethu yn 1841; a bu oddiar ei droedigaeth mewn llafur mawr yn dysgu y Beibl yn ei gof, ac yn darllen llyfrau y gallai gael gafael ynddynt er ei egluro. Bu am lawer o amser yn cadw ysgol yn Blaenplwyf, ac yr oedd yn ysgolfeistr rhagorol. Yr