Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd yn un o'r ysgrifenwyr goreu. Yr oedd yn meddu ar feddwl cyflym, ac yr oedd cryn doraeth o arabedd yn perthyn iddo. Pan yn myned i'w gyhoeddiad i Taliesin, cyfarfyddodd â Mr. Davies, Ffosrhydgaled, ar y ffordd, yr hwn wedi gofyn iddo pa le yr oedd yn myned, a ddywedodd wrtho am iddo bregethu iddynt ar y testyn, "Gwerth yr olew, a thâl dy ddyled," "Na Syr," meddai, "yr oeddwn wedi meddwl pregethu ar y testyn hwnw, 'A thra nad oedd ganddynt ddim i'w dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau.'" "Cerdd, cerdd," meddai hwnw, "Dafydd wyt ti byth." Pan yn areithio yn Nghymanfa Weddi y Mynyddbach, dywedai, "Cofiaf di o dir yr Iorddonen, a'r Hermoniaid o fryn Misar. Ystyr y gair Misar yw bach, bryn bach, neu mynych bach. Cofiwch eich gelynion yma heddyw gerbron Duw, i fynu digon o nerth i'w gorchfygu. Lle rhyfedd yw y Mynydd bach i adgofio Duw am ein hangen. Mynwch y Gymanfa Weddi yma i dalu y ffordd i chwi, fel na anghofiwch hi byth," &c. Wrth anog y bobl ieuainc a phobl y diwygiad i gyd i ddal eu ffordd, dywedai "nas gwyddai ef beth oedd ystyr yr enw Simon os nad meddal oedd; beth bynag oedd, newidiodd Iesu Grist ef i Pedr—craig. Nid yw Iesu Grist yn hoff o'r dynion meddal yma,—creigiau o ddynion mae ef yn hoffi: craig yw ef ei hun, a chraig na all pyrth uffern byth ei gorchfygu yw ei eglwys," &c.

Cyfranogodd yn helaeth o ddiwygiad 1859. Y pryd hwnw y dechreuodd roddi ei lais allan, ac yr oedd ganddo gyflawnder o hono, a hwnw yn hynod o beraidd. Cafodd odfaon nerthol iawn, a phan y byddai yr hwyl, gwnelai ddefnydd da o honi. Os na byddai hwyl, annibendod mawr fyddai y canlyniad. Ymollyngai weithiau i ddweyd pethau isel. Ond yr oedd yn hawdd gweled hyd yn nod y pryd hwnw, ei fod yn ddyn o allu, ond nad oedd y gallu yn cael ei drefnu a'i arfer yn briodol. Bu farw Chwefror 6ed, 1868, yn 49 oed, wedi bod yn pregethu am 27 o flynyddoedd. Dioddefodd lawer o gystudd corff, a chafodd lawer o siomedigaethau, yn enwedig oddiwrth yr erledigaeth enbyd fu yn Elim, trwy orfodi ffermwyr i fyned i'r Eglwys.