PARCH. EVAN EVANS, ABERFFRWD.
Ganwyd a magwyd y gweinidog enwog hwn yn Cwmcaseg, ffermdy ar ben y bryn rhwng Llanilar a Rhydyfelin. Evan Evans, Pencraig, y gelwid ef pan yn dechreu pregethu, ffermdy yn ymyl y lle y magwyd ef, Priododd ferch Pencraig, ac ar ol priodi yr aeth at waith y weinidogaeth, sef pan oedd tua 30 oed. Ffermwr fu o ran ei alwedigaeth'fydol drwy ei oes, er iddo ddysgu yr alwedigaeth o saer coed. Dywedir iddo gael troedigaeth amlwg, ac iddo ddyfod mor hynod fel crefyddwr nes iddo gael cymelliadau cryfion gan amryw i ddechreu pregethu; ond ni ddarfu iddo wrando hyd ddiwygiad mawr 1811 ac 1812, pan y gorchfygwyd ef i wneyd.
Yr oedd o daldra cyffredin, a llydan a chryf o gorff. Llais cyfyng oedd ganddo, a phesychai yn aml; ac yr oedd yn waeth felly yn ei hen ddyddiau, oblegid y diffyg anadl oedd yn ei flino. Pan oedd y Parch. T. Edwards, Penllwyn, yn pregethu yn y Cyfarfod Misol, ar ol ei gladdu, oddiar y geiriau, "Oni wyddoch chwi i dywysog ac i wr mawr syrthio heddyw yn Israel?" dywedai, "Gwr mawr mewn llafur ydoedd; ni weithiodd neb yn fwy diwyd a chaled gyda'r byd hwn, ac ni lafuriodd neb yn helaethach gyda'r weinidogaeth. Oddeutu tri o'r gloch prydnhawn Sadwrn, pwy welech ar y cae yn medi ond efe ! Pwy welech 18 milldir oddiyno dranoeth yn ysgwyd y gynulleidfa ond efe !" Rhaid fod ei gyfansoddiad yn gryf cyn y gallai ddal y fath wrolwaith, a bod allan foreu a hwyr, pan oedd eraill yn cysgu, a byw hyd oddeutu 74 mlwydd oed; ond trodd yn wendid a nychdod ynddo cyn diwedd ei oes.
Bu am y blynyddoedd cyntaf o'i bregethu, a thân y diwygiad mawr mor gryf yn ei ysbryd, fel yr oedd cynulleidfa fawr yn wrando pa le bynag y byddai. Yr oedd tri pheth yn hynodi bron ei holl bregethau,―yr argyhoeddiadol, yr athrawiaethol, a'r ymarferol. Yr oedd yn llym iawn yn erbyn pechod, ac yn sefyll dros gadw disgyblaeth fanwl yn yr eglwysi. Efe a'r Parch. Edward Jones, Aberystwyth, oedd ag arweiniad y Cyfarfod Misol yn eu