Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dwylaw, ar ol marwolaeth y Parch. Ebenezer Richard. Pan fyddai ymrafaelion yn yr eglwysi, hwy ill dau a nodid amlaf i fyned i'w gwastadhau, yn enwedig yn rhan uchaf y sir. Byddai un o honynt bron bob amser yn ymddiddan âg ymgeiswyr am y weinidogaeth, yn dewis blaenoriaid, ac yn sefydlu eglwysi. Efe fu cadeirydd Cyfarfod Daufisol Cynon am faith flynyddoedd, a dygai fawr sel dros yr Ysgol Sabbothol bob amser. Cyfrifid ef yn un o'r arholwyr goreu. Daeth yn ddirwestwr yn nghychwyniad dirwest, a gweithiodd yn egnïol drosti. Yr oedd ei wasanaeth ymhob cylch mor fawr, fel yr oedd galar cyffredinol ar ei ol wrth eu gweled mor weigion ar ol ei golli.

Pregethai bob amser yn dda, ac yn aml yn rymus ac effeithiol iawn. Yr oedd yn adnabyddus yn y Gogledd fel dyn Cymanfa Rhuthyn, gan mai efe gafodd odfa fawr y lle. Cymhellai y Parch. W. Roberts, Amlwch, ef i'w phregethu trwy yr holl wlad, gan ei bod yn genadwri amlwg oddiwrth Dduw. Ond y mae yn syn meddwl ei fod ef yn ystyried yr odfa yn un galed, a'i fod, gan gywilydd o hono ei hun, yn penderfynu cymeryd y gaseg las a myned adref rhag blaen, heb fyned i'r cyhoeddiadau oedd ganddo ar ol y Gymdeithasfa. Cafodd odfaon nerthol iawn ar y testynau, "Ac oni ddylai hon, a hi yn ferch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wele, ddeunaw mlynedd, gael ei rhyddhau o'r rhwym hwn ar y dydd Sabbath?" "Canys llaw yr Arglwydd a orphwys yn y mynydd hwn, a Moab a sethrir dano, fel sathru gwellt mewn tomen." Pan y byddai yn rhoddi ei law ddehau at ochr ei ben. byddai yn amlwg i'r gynulleidfa mai nid odfa gyffredin oedd hono i fod, fod y llais cyfyng yn sicr o ystwytho, a myned yn ochfygol i'r gynulleidfa.

Dywedai Mr. Edwards, Peallwyn, yn ei gladdedigaeth, "Bydd yn sicr o fod yn alar mawr yn y teulu, yn y capel y perthynai iddo, yn nosbarth yr Ysgol Sabbothol lle yr arferai wasanaethu mor ffyddlon, ymhlith holl aelodau y Cyfarfod Misol, bydd yn cyraedd y Gymdeithasfa, ac i fesur helaeth, bob sir o Gymru, gan ei fod yn sefyll yn uchel ymhob man, ac yn gweithio ei hun i galonau pawb.