Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dygwyd ymaith y tarianau aur a wnaethai Solomon gynt, a Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres. Yr ydym ninau wedi colli un o'r tarianau aur; gobeithio nad ydym i gael yn eu lle darianau pres."

Pan yn Pencraig, yr oedd yn aelod yn Gosen, Rhydyfelin; ond pan briododd yr ai! waith, aeth i fyw at ei wraig i fferm Abernant, Aberffrwd, ac mewn cysylltiad â chapel y lle hwn yr adnabyddid ef drachefn hyd ddiwedd ei oes, a chafodd ei gladdu yn mynwent y lle. Merch iddo ef oedd gwraig y Parch. David Morgan, Ysbyty, ac wyr iddo o'r hon yw bugail presenol eglwys y Methodistiaid yn Pontfaen, Morganwg, sef y Parch. John J. Morgan. Bu iddo ddau o frodyr yn offeiriaid. Mae genym yr amlinelliad canlynol o ddwy o'i bregethau:

Salm xxxix. 11, "Pan gosbit ddyn â cheryddon am anwiredd, datodit fel gwyfyn ei ardderchogrwydd ef," &c. I. Ardderchogrwydd dyn. 1. Mae hanes dechreuad dyn yn profi ei fod yn greadur ardderchog—ar ddelw Duw—arglwyddiaethu ar bob creadur, a galw enwau arnynt yn ol eu gwahanol naturiaethaumyned i gyfamod âg ef, a rhoddi ei gymdeithas iddo. 2. Mae ardderchogrwydd yn perthyn i'w gorff. 3. Ardderchogrwydd ei feddwl. 4. Ardderchogrwydd cysuron ei fywyd ar y ddaear. II. Fod y pethau hyn yn hawdd eu datod—"fel gwyfyn," yn ddiarwybod, yn fuan, yn ddistaw, yn sicr. III. Yr achos o'r datodam anwiredd." Fel y mae pechod yn achos o bob cerydd, ac fel y mae pechodau neillduol yn galw am geryddon neillduol. IV. Y pethau a ddefnyddia Duw yn geryddon—cystuddiau, temtasiynau, profedigaethau, yn ei amgylchiadau, angau a'r bedd. Nac ymddir. iedwn mewn dim sydd yn agored i ddatodiad. Mae cyfamod disigl yn bod.

Col. iv. 2, "Parhewch mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda diolchgarwch." I. Y pethau sydd yn galw am y para. 1. Mae yr angen yn para. 2. Duw yn parhau i alw. 3. Mae yn ddyledswydd, ac fel hyn y mae arfer pobl Dduw ymhob oes. II. Y cymhelliadau i hyn. 1. Mae Crist yn eiriol yn barhaus. 2. Yr Ysbryd wedi ei