Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

roddi i'r amcan hwn. 3. Dyma fel y llwyddwn yn ein crefydd. 4 Mae yr amser yn fyr iawn. III. Y pethau i ofalu yn eu cylch, yn y ddyledswydd hon, "Gan wylied ynddi gyda diolchgarwch." 1 Gwylied ar yr adegau goreu. 2 Gwylied ar y trugareddau a dderbyniwn, fel y byddom barod i ddiolch. 3 Gwylied arnom ein hunain, fel y gallom weled ein annheilyngdod, ac felly i wresogi ein diolchgarwch. 4 Trwy fynu profiad o'r bendithion mwyaf, heb y rhai nis gellir diolch yn iawn am yr un fendith. Os yw pawb i weddio fel hyn, beth am y di-weddi? Yn wyneb y fath ddyledswydd a hon, gwelwn mor fychan yw crefydd y goreu o honom.

Yr oedd yn un o'r rhai ergydiodd drymaf at falchder, a phob math o hunanoldeb, a byddai ei arswyd ar yr eglwysi a'r cynulleidfaoedd o'r herwydd. Eto nid oedd yn gwneyd hyny yn hobby, ond yn unig fel yr oedd yn aiddgar dros sancteiddrwydd yr eglwys, ac fel yr oedd yn erbyn llygredigaeth yn gyffredinol. Ni welid neb yn well esiampl o symlrwydd a hunan-ymwadiad nag ef, ac yr oedd pawb yn deall hyny, fel y goddofid ganddo "ddyrchafu ei lais fel udgorn i fynegu i'r bobl eu camwedd, a'u pechodau i dŷ Jacob." Oblegid y neillduolrwydd hwn, a'i ofal mawr am yr holl achos, y galerid cymaint ar ol ei golli. Bu farw Chwef. 2, 1856, yn 73 oed. Ordeiniwyd ef yn Llangeitho, yn 1822.

PARCH. JOHN THOMAS EVANS, ABERAERON.

Mab ydoedd i Cadben Evans, brawd Morgan Evans, Ysw., U.H., Oakford, a'i fam yn ferch Hengeraint, Ffosyffin. Yn ffermdy Hengeraint, gyda theulu ei fam, y dygwyd ef i fyny. Yr oedd ei syched am wybodaeth er yn blentyn yn anniwall. A chan fod ei gymeriad crefyddol yn ddifrycheulyd, ei wybodaeth mor helaeth, a'i chwaeth mor bur, cymhellwyd ef i bregethu gan lawer o'r dynion goreu. Yr oedd ef yn cadw ei feddwl iddo ei hun, ac yn ofni cymaint na allai fod yn anrhydedd i'r gwaith mawr, fel y bu am ryw gymaint o amser heb addaw cydsynio â chais ei frodyr. Bu mewn rhyw ysgol ar hyd ei oes, nes myned i Brifysgol Aberystwyth,