ac yna i Edinburgh. Ei iechyd gwanaidd oedd yr unig achos na arhosodd yno nes cael ei M.A. Ar ol gorfod aros gartref, bu yn gwneyd prawf ar Llandysul ac Aberaeron, er gweled pa le oedd oreu i'w gyfansoddiad. Cafodd lawer o'i gymell i fod yn fugail yn ei fam-eglwys, Ffosyffin, ac eglwys Fronwen, Llanarth, ac addawodd yntau am ryw gymaint fod; ond gwelodd na allai ei iechyd ganiatau iddo ymgymeryd â llafur bugeiliol, a rhoddodd i fyny yn anrhydeddus. Yna, prynodd dŷ yn Belle View Terrace, Aberaeron, lle y bu fyw gyda'i chwaer hyd ei farwolaeth yn Medi 18, 1892, yn 32 oed.
Bendithiwyd Mr. Evans â chorff tal, hardd, a golygus i sefyll o flaen cynulleidfa, gwallt hollol ddu, gwyneb lled fawr, ond ei olwg yn welw ac afiach. Ei lygaid yn sefyll hytrach i fewn, ac yn serenu gan sirioldeb dedwydd, pan yn mhresenoldeb cyfeillion. Cerddai hytrach yn gam, a safai felly yn y pulpud. Bendithiwyd ef hefyd â llais cryf, fel y gallai wneyd i lonaid capel mawr ei glywed o'r dechreu: ond yr oedd yn rhy agored i ateb i nerth ei gorff. Ni chodai fawr o'i lais hyd y diwedd, ac nid ydym yn meddwl y gallai nerth ei gorff oddef hyny. Bendithiwyd ef hefyd â chyfoeth oedd yn feddiant personol iddo. Bu hyny yn fantais fawr iddo i gyraedd dysgeidiaeth, ac i allu rhoddi i fyny i sefyllfa wanaidd ei iechyd. Bellach, dywedwn ychydig am ei brif nodweddion.
Yr oedd yn ddarllenwr mawr. Os sonir am ddarllen, dyma ddarllenwr! Defnyddiai lawer o'i gyfoeth at brynu llyfrau, y nwyddau yr oedd ef yn llawer mwy hoff o honynt nag arian, ac yr oedd yn hoff o arian am eu bod yn help iddo i gael llyfrau. Yr oedd y llyfrgell oedd ganddo yn synu dau ddosbarth o ddynion. Yr oedd ei maint yn synu y rhai anwybodus, gan y gwyddent fod llyfrau yn gofyn arian i'w prynu ac amser i'w darllen. A synai y dosbarth gwybodus at ansawdd y llyfrgell, gan ei bod yn gymaint o faint. Yr oedd un peth yn nodweddu ei lyfrgell yn fwy na'r rhan fwyaf o bregethwyr, sef y detholiad rhagorol o lyfrau Cymraeg oedd ynddi. Rhoddodd ei lyfrgel i gyd i Athrofa