Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byd lle y gallasai gael cyfleusdra i wrando yr offeriad hwnw." Ac wedi i'r Pareh. Philip Pugh, Hendre, Blaenpennal, farw yn 1762, anfonwyd i'r Feni am y myfyriwr goreu i ddyfod i Llwynpiod ac Abermeurig ar brawf. Gray anfonwyd, a Gray ddewiswyd. Y Sabbath cyntaf, rhaid oedd iddo bregethu am wyth o'r gloch y boreu, gan fod y gwrandawyr yn myned i Langeitho erbyn deg. Er yn anfoddlon i'r cynllun, aeth ar ol yr odfa gyda'r gwrandawyr i Langeitho, pan, er ei fawr syndod a'i lawenydd, y gwelodd y dyn y dymunodd ar yr Arglwydd ei arwain i'r lle y cawsai gyfleusdra i'w wrando.

Priododd â Mrs. Jones, gweddw Theophilus Jones, Ysw., Blaenplwyf, ac aeth i fyw i Sychbant, un o ffermdai ystad y wraig yn nghymydogaeth Abermeurig, lle y bu fyw am oddeutu 50 mlynedd a mwy. Gan ei fod mor hoff o Rowlands, a'i fod yntau yn bregethwr mor dda, cafodd ei alw i bregethu yn fynych i Langeitho, ac i wasanaethu Cyfundeb Rowlands ar hyd y wlad yn y capelau, y Cyfarfodydd Misol a'r Cymanfaoedd, fel yr aeth yn fwy o Fethodist nag o Bresbyteriad, a rhoddodd anogaeth wrth farw i'w holl gynulleidfaoedd ymuno â'r Methodistiaid, â'r hyn y darfu iddynt gydsynio, Nid Annibynwr oedd Gray, ac nid Annibynwyr oedd cynulleidfaoedd Llwynpiod, Abermeurig, a Ffosyffin. Gwelsom un weithred capel yn ei alw ef yn Bresbyteriad, a "Hen Bresbyteriad " y galwai yntau Phylip Pugh. Yr oedd holl bregethwyr y Methodistiaid yn cael dyfod i'w gapelau ef, ac felly yntau yn yr eiddynt hwythau, Pan oedd yn pregethu mewn Cymanfa yn Abergwaun, ar y Prynedigaeth drwy Grist, y defnyddiodd y gymhariaeth ganlynol am y "llwyr brynu." Pan fyddo nwyddau wedi cael cam ar y mor, rhaid gostwng llawer yn eu pris wrth eu gwerthu; ond pan aeth Mab Duw i brynu pechaduriaid, ni ostyngai y ddeddf yr un ffyrling yn eu pris, yr oedd yn rhaid llwyr brynu. Arhosodd gymaint gyda hyn, fel yr aeth yr un floedd fawr trwy yr holl dorf. "Pregeth y llwyr brynu" y gelwid hon gan bawb oedd yn ei gwrando. Owen Enos,—yr hynod Owen Enos,—a ddywedai am dano ar ol ei glywed, mewn Cyfarfod Misol, "Mae yr hen ddyn yna yn tynu cymaint o'r