Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dderbyn yma, a'r holl groes-ragluniaethau. Pa ryfedd fod y gwyliwr yn disgwyl y boreu, y milwr yn disgwyl i'r frwydr ddarfod, a'r llongwr y porthladd?"

G

PARCH. THOMAS GRAY, ABERMEURIG.

Brodor ydoedd o Orllewin Morganwg. Cafodd droedigaeth mewn ffordd hynod. Gweithio dan y ddaear yr oedd, ond ryw foreu, cafodd fyned ar neges dros ei feistr i Gastellnedd, pryd yn ol ei arfer annuwiol, yr aeth yn sotyn meddw. Yn y cyfamser, yr oedd ei gydweithwyr yn myned at eu gwaith, ac wrth eu gollwng i waered i'r pwll, torodd y rhaff, a syrthiasant oll yn feirw i'r dyfnder. Pan welodd un Gray yn gorwedd yn feddw ar y ffordd, deffrodd ef, a dywedodd, "Beth Tom Gray, a'i dyma lle yr wyt! Yr oeddwn i yn meddwl dy fod yn uffern oddiar wyth o'r gloch y boreu gyda dy gydweithwyr." Yna hysbysodd iddo yr amgylchiadau. Wedi clywed, gwaeddai oddiyno nes dyfod at arolygwr y gwaith, "Diolch am y daith i Gastellnedd, i savio y daith i uffern." "Tom Gray yn meddwi ar y ddaear, a'i gydweithwyr yn uffern." Dyfnhaodd yr ystyriaeth, a methodd gael tawelwch nes dyfod at Grist, ac at grefydd. Daeth yr un mor hynod yn ngwasanaeth Crist ag oedd yn ngwasanaeth y diafol o'r blaen, fel y cafodd anogaethau i fyned i bregethu y Ceidwad achubodd ei fywyd mewn dwy ystyr, Wedi dechreu, aeth i athrofa y Feni (Abergafeni), o'r hon yr aeth i wrando Rowlands, Llangeitho, oedd yn pregethu mewn lle cyfagos, yr un fath ag yr aeth Mr. Charles, o'r Bala, pan oedd yn athrofa Caerfyrddin, i wrando yr un gwr, pan oedd yn pregethu yn Capelnewydd, Sir Benfro, a bu yr effeithiau yn gyffelyb ar y ddau. Ni allai Gray wneyd dim a'i lyfrau am ddyddiau lawer. "Gwibiai ar hyd y meusydd fel hurtyn, gan weddio weithiau, a syn-fyfyrio bryd arall; a dymunodd ar y pryd ar Lywydd mawr y bydoedd, am iddo weled bod yn dda drefnu ei goelbren i ddisgyn mewn rhyw fan o'r