Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyd un drwgweithredwr unwaith trwyddo. "O!" gan ddweyd ei enw, pa bryd y daethoch o'r treadmill?" Er cymaint a wadodd y dyn, wrth ymholi, cafwyd allan mai Mr. Evans oedd yn iawn, a gwnaeth y dyn y goreu o'i draed. Yr oedd yn galw yn fynych ar ei deithiau, yn y tai oedd ar ei ffordd, gan holi am bob un wrth eu henwau, ac hefyd am amgylchiadau perthynol iddynt oedd llawer o honynt hwy wedi eu hanghofio. Felly yr oedd yn anwylddyn ac yn oracl y wlad.

Safai yn syth yn y pulpud, heb symud fawr o'r pen na'r corff; ond troai ei lygaid fel yn ddiarwy bod. Siaradai â'r gynulleidfa fel ar yr aelwyd, a da hyny, gan nad oedd ganddo lais i waeddi. Yr oedd ei bregethau o'r fath fwyaf ymarferol. Nid ydym yn meddwl iddo drafferthu fawr yn ei oes at ddyfod yn dduwinydd da, nac at fod yn siaradwr coeth; ond yr oedd bob amser yn dangos ei fod yn adnabod y wlad, ac yn amcanu at ei gwella. Yr oedd yn areithiwr dirwest rhagorol, ac yn wrthwynebydd cadarn i'r ysmocio. Ni byddai yn ymyraeth fawr â threfniadau y Cyfarfod Misol, ond dywedai ei farn yn onest arnynt. Beth bynag, yr oedd ganddo ei waith, a'i ffordd o'i wneyd, ac nid oedd neb yn debyg iddo, ac nid oes ei debyg wedi ymddangos ar ei ol.

Dywediadau," Ceisiwch ddoethineb, fel y mae dynion yn ceisio arian, fel y mae y claf yn ceisio meddyginiaeth, ac fel y mae y condemniedig yn ceisio am ei fywyd. Cilia oddiwrth ddrwg (drwgfeddyliau, drwg-weithredoedd, drwg-ymddiddanion, drwg-gwmpeini), fel cilio oddiwrth ddrwg-weithredwr, fel cilio oddiwrth elyn, fel cilio oddiwrth angau, oddiwrth seirff, oddiwrth fwystfilod rheibus, oddiwrth dân, oddiwrth heintiau niweidiol; ac fel y mae y llongwyr yn cilio oddiwrth greigiau a morladron. Gwlad well, gwell na Chaldea, Canaan, nac Eden. Helaethach gwybodaeth, gwell pethau i'w mwynhau, a helaethach mwynhad; gwell na'r gweddnewidiad na'r mil blynyddau, ac i barhau byth. Mae y saint yn ei chwenych am mai dyma wlad eu genedigaeth; gwlad eu trysorau penaf; gwlad y teulu, Duw Dad, Crist eu brawd, a'r holl frodyr. Cânt yno esboniad ar yr holl lythyrau tywyll maent yn