Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyddiau diweddaf hyn. Felly yr oedd yn Rhyddfrydwr a diwygiwr mawr, a hyny o flaen ei oes, er fod llawer yn ei gyfrif ar y pryd yn ormod ato ei hun, ac yn rhy aml yn ei gartref.

Gwir ofalai am bobpeth a ymddiriedid iddo. Bu yn oruchwyliwr y ddwy Drysorfa trwy yr holl sir am flynyddoedd lawer, ac y mae yr hanesion am dano fel y cyfryw yn profi nad allai fod ei ail mewn manylder, er nad oedd fawr o ysgolhaig, fel y dywedir. Ni thorodd gyhoeddiad erioed, ond wedi iddo gael ei daraw â'r parlys a marw. Ni fu fawr yn glaf yn ystod ei oes. Dyn gweddol dal, cryf, a llydan o gorff, ac o ymddangosiad boneddigaidd. Cadwai gyfrif o'i dderbyniadau a'i dreuliadau yn y teulu ac allan o hono, a byddai bob amser yn ddedwydd wrth weled y naill beth ar gyfer y llall, pa un bynag a'i prin a'i helaeth fyddai y moddion. Daeth felly yn ei flynyddoedd olaf yn gryf ei amgylchiadau, fel yr oedd yn barod i roddi 20p. neu 50p. at Drysorfa y Gweinidogion, pe cawsai eraill y gwyddai oedd a gallu ganddynt, i gyfranu yn ol eu gallu, ond cafodd ei siomi. Yr oedd yn deyrngarol a haelionus at bob achos da; ond teimlai i'r byw os gwelai arwyddion o gulni a difaterwch.

Yr hyn a'i gwahaniaethai yn fwyaf oddiwrth bawb eraill, oedd ei gôf anarferol o gryf, trwy yr hwn y gwyddai enwau rhieni a phlant trwy yr holl wlad, wedi eu clywed unwaith. Gan fod ei sylw mor graff, gwyddai i ba bersonau yr oedd pob côr ymhob capel yn perthyn, a byddai pawb yn gwneyd eu goreu i fod yn bresenol ar ei Sabbath ef, gan y byddai yn holi am danynt os yn absenol. oedd elfenau cyfeillgarwch yn helaeth ynddo, fel y mynai ysgwyd dwylaw â phawb a allai, a'u cyfarch wrth eu henwau, gan ofyn hefyd am y plant ac eraill agos atynt, ac i gyd wrth eu henwau; ac felly ymhob capel trwy y sir a'r siroedd lle yr oedd wedi bod o'r blaen. "Pwy," gofynai yn Trisant, "oedd y bachgen oedd yn y gornel y fan a'r fan;" wedi deall, gwelwyd mai yr ysgolfeistr oedd wedi dyfod i'r ardal yn ddiweddar ydoedd. Yna dywedodd yntau ei achau, a'i fod yn perthyn i Mr. Evans, yr Aber. "Pwy oedd y ddau fachgen oedd gyda——?" Wedi cael gwybod, aeth i olrhain achau pob un, a dywedodd enwau y ddau lanc hefyd. Darganfydd-