Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

âg ef, fod ganddo ffordd arbenig i enill parch pawb, a'i fod yn gyfaill o'r fath oreu Priododd wraig weddw, mewn amgylchiadau da yn Aberteifi, ac aeth yno i fyw yn 1854. Ni fu byw yn hir ar ol ei symudiad, gan iddo, ar ol cystudd trwm, farw Awst y 12fed, yn 1860, wedi pregethu am 45 mlynedd, a'i ordeinio yn y Bala, yn 1828.

PARCH. THOMAS EVANS, ABERARTH.

Brodor ydoedd o'r lle uchod, ac ni fu byw allan o hono fawr trwy ei oes, ond hyny fu yn ardal Abermeurig, a lleoedd eraill, pan yn dysgu ac yn gweithio wrth ei grefft fel gwehydd, a hyny fu yn Aberaeron gyda'i ferch ychydig cyn marw. Gelwid ef Thomas Evans, Pendre, a Thomas Evans, Plas. Mab ydoedd i Thomas ac Ellinor Evans, Pendre. Cafodd beth addysg gyda Dr. Phillips, Neuaddlwyd, a bu yn cadw ysgol yn y capel yn Aberarth. Bu yn y weinidogaeth am oddeutu 56 mlynedd. Ordeiniwyd ef yn Aberteifi yn y flwyddyn 1847, pan oedd Dr. Charles, Trefecca, yn areithio ar Natur Eglwys, a'r Hybarch John Thomas, Aberteifi, yn rhoddi y Cyngor. Bu farw Mai 30, 1884, yn 80 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llanddewi. Gellir dweyd ei fod yn sefyll ar ei ben ei hun mewn amryw bethau. Yr oedd ei ofal am yr eglwys a'r achos gartref yn eithriadol o fanwl. Byddai ymhob cyfarfod, ac yno yn frenin. Gwyddai mor fanwl a'r teuluoedd eu hunain am yr holl forwyr o'r lle; a'i waith wedi dyfod adref o'i gyhoeddiadau fyddai myned oddiamgylch i wneyd ymholiad am y cyfryw, am y cleifion, ac am gyfnewidiadau diweddar a newyddion y lle, yn grefyddol a gwladol. Pan fyddai Cyfarfod Misol yn y lle, yr oedd yn rhaid galw yn yr holl dai, lle yr oedd rhai yn lletya, i'w cyfarch hwy a'r teuluoedd, cyn myned i orphwys. Ni fyddai fawr o amser cyn myned trwy yr holl bentref. Yr oedd ef yn y daith bob Sabbath cymundeb drwy y flwyddyn, oddieithr fod rhyw reswm neillduol iddo fod fel arall. Yr oedd felly cyn iddo gael ei wneyd yn fugail yn 1872, ac felly yn cyflawni yn y blynyddoedd gynt yr hyn a ofynir gan eglwysi a bugeiliaid yn y