Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn marwolaeth y gŵr ieuanc gobeithiol hwn. Heblaw ei fod yn bregethwr da yr oedd yn dechreu cymeryd dyddordeb neillduol yn mhrif symudiadau yr enwad, yn y Cyfarfod Misol, ac yn y Cymdeithasfaoedd, a siarad yn gyhoeddus arnynt. Yr oedd mor amlwg gyda hyn, fel yr oedd yn dechreu cael ei weled a'i deimlo; a buasai yn sicr o fod yn allu yn ein plith ymhob ystyr, pe cawsai fywyd ac iechyd. Claddwyd ef yn mynwent Henfynyw, ger Aberaeron.

PARCH. ROBERT EVANS, ABERTEIFI

Yr oedd hwn yn debyg mewn llawer o bethau i Mr. Evans, Aberffrwd, ond na fu yn amaethwr fel efe, dros ei oes. Dygwyd ef i fyny yn ardal y Glyn, yn agos i'r Bala. Yr oedd yn frawd i'r Parch. Daniel Evans, Penrhyndeudraeth. Dechreuodd bregethu yn 1815. Ysgolfeistr ydoedd, a meddai dalent neillduol at ddysgu a holwyddori plant drwy ei oes. Am un mlynedd ar ddeg, bu yn un o ysgolfeistriaid cylchynol Charles o'r Bala. Ac oherwydd fod y rhai deallgar yn ei weled yn grefyddwr da, ac yn areithiwr rhagorol ar wahanol faterion yn yr Ysgol Sabbothol, cymhellwyd ef i bregethu. Ni chafodd ei gyfeillion siomedigaeth ynddo. Daeth yn bregethwr da o ran mater a thraddodiad. Yr oedd ganddo lais da i waeddi, ond iddo ei gadw o fewn terfynau priodol. R. Evans, Llanidloes, ei gelwid pan yn Sir Drefaldwyn.

Heblaw ei fod yn bregethwr cymeradwy, yr oedd yn ddyn o gallineb tu hwnt i'r cyffredin; ac felly yn wr o gyngor ar bron bob achos, ac yn cael ei le yn naturiol fel arweinydd yr eglwysi a'r Cyfarfod Misol, yn nesaf felly i'r Parch. John Hughes, Pontrobert. Yr oedd yn un o'r dirwestwyr goreu, ac ysgrifenodd lyfryn bychan o Holiadau ac atebion ar Ddirwest, yr hwn y bu llawer o holi arno mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Yr oedd yn dra phoblogaidd fel holwr Ysgol Sabbothol, ac fel areithiwr dirwest.

Gwr tal a thew o gorffolaeth ydoedd, a golwg foneddigaidd a thrwsiadus arno bob amser. Gellid meddwl o draw mai un arglwyddaidd a llym ydoedd; ond gwelai pawb wedi ymgyfarwyddo