Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala/Y Parch Robert Evans, Llanidloes

Oddi ar Wicidestun
Gosod y Pregethwyr a'r Addoldai o Dan Amddiffyniad y Gyfraith Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala

gan Robert Owen, Pennal

Y Parch Daniel Evans, y Penrhyn


PENOD V.

Y PARCH ROBERT EVANS, LLANIDLOES.

Yr Ysgolfeistriaid yn dianc rhag cael eu herlid—Eu dull o symud o fan i fan —Tystiolaeth y Parch. Robert Jones, Rhoslan, yn Nrych yr Amseroedd—Meirion a Threfaldwyn yn cael yr Ysgolion gyntaf—Y Parch. Thomas Davies, Llanwyddelen—Bore oes y Parch. Robert Evans—— Yn cychwyn o'r Bala yn 1807—Yn cyflawni gwrhydri yn ngwaelod Sir Drefaldwyn—Blaenffrwyth y Diwygiad yn ngwaelod y Sir—Darluniad Robert Evans o'r wlad o gylch 1808—Llythyr Mr. Charles—Robert Evans yn symud i Lanidloes—Yn ddiweddaf oll i Aberteifi.

YR oedd yr Ysgolion Rhad Cylchynol wedi eu rhoddi ar waith gan Mr. Charles, ddeng mlynedd lawn cyn blwyddyn yr Erledigaeth fawr yn Sir Feirionydd yn 1795, y rhoddwyd ychydig o'i hanes yn y benod flaenorol. Erbyn y flwyddyn hon, yr oeddynt wedi gwneuthur llawer o wasanaeth, ac wedi cyraedd yn agos i anterth eu poblogrwydd a'u defnyddioldeb. Yr ysgolfeistriaid, yn rhinwedd eu swydd fel rhai yn dysgu ieuainc a hen i ddarllen gair yr Arglwydd, fuont yn foddion i ffurfio cnewyllyn yr achos mewn llawer ardal, yn y cyfnod hwn. Ond nid oes wybodaeth ddarfod i neb o honynt hwy am eu bod yn ysgolfeistriaid, syrthio o dan fflangell yr Erledigaeth grybwylledig, er i lawer o honynt gael eu camdrin yn chwerw mewn manau eraill. Y pregethwyr, o herwydd eu bod yn pregethu heb drwydded, a'r tai a'u derbynient i bregethu ynddynt heb eu trwyddedu, ydoedd nôd dialedd yr erlidwyr yn yr erledigaeth hon. Hawdd y gallasai yr ysgolfeistriaid symudol, yn anad neb, ddianc o gyrhaedd y poenydwyr, gan nad oedd i neb o honynt hwy ddinas barhaus yn unman. Gwaith cydmarol rwydd, yn yr ystyr o ymfudo, ydoedd symud yr ysgol a'r ysgolfeistr yn nyddiau goruchwyliaeth yr Ysgolion Cylchynol. Sefydlid yr ysgol mewn ardal, a symudid hi i ardal arall, pan ddelai y tymor i fyny, mewn llai o amser nag un-dydd un-nos. Yr oedd y cyfleusderau i gynal yr ysgolion yn hynod o brinion ac anmhwrpasol. Nid oedd ysgoldai wedi eu hadeiladu mewn tref na gwlad; ac nid oedd ond ychydig iawn o gapelau y pryd hwnw. Gallesid, er engraifft, gyfrif holl gapelau Gorllewin Meirionydd, yn y flwyddyn 1800, ar benau bysedd un llaw, a thebyg ydoedd yn yr holl siroedd. Nid yn y capelau y cynelid yr ysgolion dyddiol cylchynol y pryd hyn, fel y buwyd yn gwneuthur am haner canrif wedi hyny; ond mewn tai anedd, ac ysguboriau, a beudai, neu unrhyw adeiladau eraill cysylltiedig â'r ffermdai. Byddai raid i'r trefi a'r pentrefi ildio eu hawl yn yr Ysgol, er mwyn iddi fyned yn ei thro i'r ardaloedd gwledig, a'r cymoedd anmhoblog, gan mai Ysgol Gylchynol ydoedd. Saith mlynedd yn ol (yn 1888), clywsom ŵr oedranus yn adrodd ddarfod iddo glywed ei dad yn adrodd, fel y cofiai yn dda am y diwrnod y daeth un o'r ysgolfeistriaid i dŷ ei rieni, i gychwyn ysgol yn yr ardal. Deuai yno, a'i gelfi a'i eiddo i gyd gydag ef, mewn car llusg. Yr oedd ei holl glud yn gynwysedig mewn sypyn o ddillad at ei angen ei hun, ynghyd ag ychydig o lyfrau elfenol er mantais i'r ysgol—llyfrau Cymraeg o waith Griffith Jones, Llanddowror, a'r rhai a ychwanegodd Mr Charles atynt. Arosa yn y ffermdy hwn un mis, gan dderbyn bwyd a llety yn rhad, yn y ffermdy arall y mis arall, ac felly yn y blaen. A phan ddelai y tri, neu chwech, neu naw mis i fyny, cychwynai ef a'i offer gydag ef yn yr un dull ag y daethai, i gychwyn yr ysgol drachefn mewn cymydogaeth arall. Mor syml a dirodres ydoedd yr hen ysgolfeistriaid, fel y gellid tybied eu bod wedi llwyrfeistroli cyngor yr Apostol, "O bydd genym ymborth a dillad, ymfoddlonwn ar hyny."

Ymddengys ddarfod i rai siroedd fwynhau ffrwyth yr Ysgolion Cylchynol yn fwy nag eraill. Gosodwyd mwy o nifer o honynt ar waith fel yr oedd y cyfleusderau yn rhoi. Lled sicr ydyw i'r bendithion a gyrhaeddwyd drwyddynt gyraedd i'r holl siroedd, ond y mae yn eithaf rhesymol i ni gredu fod cylch eu gweithgarwch uniongyrchol yn gyfyngach. Cyfodai nifer lliosocach o ddynion cymwys i fod yn athrawon mewn rhai cymydogaethau, a deuai galwadau am yr ysgolion yn fwy, a dylanwadai y naill beth ar y llall, fel y mae yr alwad yn effeithio ar y cynyrch, a'r cynyrch yn effeithio ar yr alwad. Dywed y Parch. Robert Jones, yn Nrych yr Amseroedd, mai mewn tair neu bedair o'r siroedd y sefydlwyd yr ysgolion. Dyma ei eiriau ef:—"Tua'r amser hwnw, cafodd y Parchedig T. Charles ar ei feddwl, ynghyd a rhai o'i gyfeillion yn Lloegr, sefydlu rhyw ychydig nifer o ysgolion rhad, trwy dair neu bedair o Siroedd Gwynedd, i'w symud o fan i fan bob haner blwyddyn; rhoddes y rhai hyn gychwyniad da, a chynydd dysgeidiaeth i lawer o dlodion. Ond tuhwnt i bob peth, yr Ysgolion Sabbothol a helaethodd freintiau yr oes bresenol, fel na bu y Cymry, er pan y maent yn genedl, mor gyflawn o ragorfreintiau ag ydynt yn y dyddiau hyn." Ysgrifenai Robert Jones Ddrych yr Amseroedd ymhen tua phum' mlynedd ar ol marw Mr. Charles, oblegid cyhoeddwyd y llyfr yn nechreu 1820. Yr oedd yr awdwr yn fwy hyddysg yn hanes. Cymru, o leiaf yn hanes crefydd Cymru, na neb arall am haner olaf y ganrif ddiweddaf, a chwarter cyntaf y ganrif bresenol, bu yn cadw ysgol ei hun, o fan i fan, o dan arolygiaeth Madam Bevan, ac yr oedd yn gwybod cystal a neb am Ysgolion Cylchynol Mr. Charles, oblegid yr oedd y ddau yn gyfeillion mynwesol. Nid oes, gan hyny, ddim amheuaeth o berthynas i gywirdeb ei dystiolaeth ef.

Nid ydyw Robert Jones yn enwi y tair neu bedair o Siroedd Gwynedd y sefydlwyd yr ysgolion ynddynt. Ond gallwn benderfynu hyd sicrwydd fod Sir Feirionydd a Sir Drefaldwyn. yn ddwy o honynt. Mae y ffaith fod Mr. Charles ei hun yn byw yn y Bala yn ddigon o reswm dros fod Sir Feirionydd wedi ei breintio yn helaeth yn yr ystyr hon, ac y mae mwy o hanes yr ysgolion fu ynddi hi ar gael hyd heddyw. Sir Drefaldwyn, hefyd, a ddaeth i mewn yn helaeth am yr un breintiau, am y rheswm, yn un peth, ei bod yn agosach i'r Deheudir, o'r lle y daeth y Diwygiad Methodistaidd; a chan fod rhanau o'r sir hon wedi ei harloesi yn foreuach, yr oedd yn barotach i dderbyn yr ysgolion. Gwnaeth Howell Harries ei ymddangosiad yma yn foreu, a dilynwyd ef gan amryw o'r diwygwyr eraill. Planwyd amryw o eglwysi, yn enwedig yn ngwaelod y sir, y pryd hwnw. Gafaelodd crefydd yn foreu mewn rhai parthau o'r wlad, fel erbyn dyddiau Mr. Charles, yr oedd y tir wedi ei fraenaru, ac yr oedd yma addfedrwydd a pharodrwydd i alw am yr ysgolion ar eu cychwyniad cyntaf allan. Mewn llawer o fanau, yr ysgolion dyddiol hyn a'r ysgolfeistriaid fyddent yn offerynau i ddeffro y bobl i ystyried eu cyflwr, a hwy fyddent y moddion uniongyrchol i ffurfio cnewyllyn achos crefydd yn y manau lle yr arhosent. Ond yn y sir hon, digwyddodd yn wahanol. Yr oedd eglwysi wedi eu planu, a chrefydd y Diwygiad wedi enill y blaen ar yr ysgolion, a digaregu y ffordd i'r fath raddau, nes peri addfedrwydd yn yr ardaloedd i alw am foddion addysg i'w plith, trwy offerynoliaeth yr Ysgolion Dyddiol Cylchynol. Heblaw hyny, hefyd, bu yr ysbryd crefyddol a ddaethai eisoes i'r cyrion hyn, yn foddion i fagu a meithrin dynion cymwys i fod yn athrawon, megis John Davies, y Cenhadwr, a John Hughes, Pontrobert, am y rhai y crybwyllwyd yn barod. Bu eraill hefyd yn ysgolfeistriaid. cyflogedig o dan arolygiaeth Mr. Charles, yn Sir Drefaldwyn, yn fwy agos i ddiwedd ei oes, ac yn eu plith yr ydoedd.

Y PARCH. T. DAVIES, LLANWYDDELEN.

Ychydig sydd wedi ei ysgrifenu am dano ef, ac y mae hanes ei fywyd yn awr yn anhawdd dyfod o hyd iddo, gan fod ei gydoeswyr wedi eu cludo o un i un at eu tadau. Ond y mae llawer o hen bobl yn ardal yr Adfa yn ei gofio yn dda. Dywedir y bu ei rieni yn byw yn ardal Cynwyd, yn Sir Feirionydd, ac mai yno y magwyd Thomas Davies. Yn y Gymdeithasfa, gan Mr. Edward Jones, Bangor, ceir ei enw yn rhestr gweinidogion Sir Drefaldwyn—yn dechreu pregethu yn 1821; yn cael ei ordeinio yn 1838; yn marw Ionawr 20, 1842, yn 49 mlwydd oed. Tebygol ydyw iddo dreulio ei oes bron yn gwbl yn rhan isaf y sir hon. Ysgrifenodd hanes yr achos yn Llanwyddelen, i Oleuad Cymru, yn 1830, cyfrol 7fed, tudal. 10. Cofnodir gan ysgrifenydd lleol ddarfod iddo fod yn weithgar gyda'r Ysgol Sabbothol, a llenwi y swydd o flaenor cyn dechreu ar waith y weinidogaeth. Meddai ddylanwad mawr yn yr ardal lle y preswyliai. Adnabyddid ef fel dyn tawel, diymffrost. Yr oedd ei ymddangosiad yn ddychryn i'r mwyaf gwamal. Rhedai heidiau o fechgyn gwamal yr ardal ymaith y foment y deuai ef i'r golwg.

Bu cais ar ol ei farw am wneuthur cofiant iddo, ond ni wnaed mo hyny. Cyfansoddodd John Hughes, Pontrobert, ac eraill, farddoniaeth ar ei ol. Dyn crwn, gwridgoch, cydnerth ydoedd; yn llawn yni a thân, yn lleisiwr da, ac yn bregethwr cymeradwy. Cadwai yr ysgol gylchynol o fan i fan. Bu yn ei chadw yn y Cefn Du, ffermdy ger Meifod. Y mae Mr. David Jones, Edgebold, Amwythig, sydd yn awr yn fyw, yn cofio ei fod yn yr ysgol yno gydag ef. Bu yn cadw yr ysgol yn Llanrhaiadr Mochnant hefyd, ymhen blynyddoedd ar ol y Parch. John Davies, y Cenadwr i Tahiti. Cadw yr ysgol y byddai yn yr Adfa, ac yn byw yn Tŷ Capel. Arhosai dros y Sul yn y Trallwm, mewn tŷ lle yr oedd y frech wen wedi bod, cafodd yntau y clefyd hwnw yno, a bu farw o hono ymhen ychydig ddyddiau, yn y flwyddyn a nodwyd, yn nghanol ei ddefnyddioldeb.

Y PARCH. ROBERT EVANS, LLANIDLOES.

Yr oedd ef yn wr cymeradwy iawn yn ei oes, a'i ddefnyddioldeb yn eang fel addysgwr a phregethwr. Ganwyd ef yn Llangower, gerllaw y Bala, yn y flwyddyn 1784. Yr oedd yn frawd i'r Parch. Daniel Evans, y Penrhyn, Sir Feirionydd. Aelodau gyda'r Annibynwyr oedd ei rieni, a dygwyd yntau i fyny, yn more ei oes, gyda'r un bobl. Pan yn dair ar ddeg oed ymfudodd i'r Bala, at ewythr iddo, i ddysgu y gelfyddyd o wehydd. Ymunodd yno â'r Methodistiaid, a dechreuodd weithio gyda chrefydd yn fore. Yr oedd wedi ei eni bron yr un flwyddyn ag y ganwyd yr Ysgol Sabbothol; a chan fod ei gartref haner y ffordd rhwng Llanuwchllyn a'r Bala—lleoedd enwog am eu crefydd yr oes hono—clywodd swn caniadau Seion yn nyddiau ei febyd. Ac wrth symud i dref y Bala, dair blynedd cyn terfynu y ganrif ddiweddaf, symudai i blith nifer mawr o saint a phererinion. Aeth yno pryd yr oedd yn ddyddiau euraidd ar grefydd,—y proffwydi yn eu llawn nerth a gogoniant, y blaenoriaid a'r hen grefyddwyr yn bigion. duwiolion y wlad, y diwygiadau crefyddol yn aml, a'r Ysgol Sabbothol yn cyflymu tuag uchelfan ei phoblogrwydd. Yn nghanol awyrgylch mor dyner ac amgylchiadau mor ffafriol, gwreiddiodd argraffiadau crefyddol yn ddwfn ynddo, yn ystod y deng mlynedd y bu yn trigianu yn y Bala.

Pan yn dair ar hugain oed, Mr. Charles, yn ol ei graffder arferol, yn gweled ynddo elfenau dyn defnyddiol, a'i hanfonodd i gadw ysgol gylchynol, i ardaloedd tywyll a phaganaidd yn ngwaelod Sir Drefaldwyn, megis Llangynog, Llansilin, Llanrhaiadr, a manau eraill. Yn 1807 y mae Robert Evans yn gadael y Bala a Sir Feirionydd, ac yn wynebu ar y sir lle y treuliodd y rhan helaethaf o'i oes. Llangynog ydyw y lle cyntaf iddo ddechreu ar ei waith. Fel hyn yr edrydd Methodistiaeth Cymru am yr anfoniad, a'r amser, a'r lle, a'r gwaith y dechreuodd y gwr ieuanc yn uniongyrchol ei gyflawni "Oddeutu y flwyddyn 1807, anfonodd Mr. Charles i'r lle hwn wr ieuanc crefyddol a siriol i gadw ysgol. Cafodd y cyfarfodydd llygredig ar y Sabbothau yn fawr eu rhwysg yn Llangynog, yn y Pennant, ac yn enwedig yn Hirnant, ond ddarfod tori llawer ar eu grym trwy foddion tra hynod. Yr oedd gwyl fawr o ddawnsio ar y pryd yn cael ei chynal yn Hirnant. Ar ol yr odfa yn Llangynog, aeth y gwr ieuanc yno, yn llawn eiddigedd dros ogoniant Duw a sancteiddrwydd y Sabboth. Daeth yn ddisymwth i ganol y dawnswyr, gan gyfeirio ei gamrau rhwng y rhengau at y fiddler, yn yr hwn yr ymaflodd, gan ei orchymyn i ymbarotoi i'r farn, i roddi cyfrif am ei waith yn halogi Sabbothau Duw. Gwnaeth hyn mewn dull mor ddisymwth ac awdurdodol nes peri distawrwydd yn y fan. Disgynodd arswyd hefyd ar y chwareuwyr, oddiar euogrwydd cydwybod, nes peri iddynt oll ffoi ymaith gyda phrysurdeb, a gadawyd y crvthor yn unig. Yr oedd braw wedi ei ddal yntau, a chaed ganddo addunedu nad ymheliai efe mwyach A'r fath wasanaeth....... Parodd y tro hwn ergyd ychwanegol ar yr hen gampau llygredig, a pharhau a wnaethant i adfeilio a syrthio, fel yr oedd goleuni gwybodaeth, trwy weinidogaeth yr efengyl, yn amlhau."

Dyma wroldeb mewn gwr ieuanc tair ar hugain oed, newydd droi allan oddiwrth ei orchwylion bydol o dref y Bala, teilwng o Howell Harris. Cyfarfyddodd ag erlidiau, a chyflawnodd wrhydri cyffelyb i'r cawr o Drefecca yn ei swydd o ysgolfeistr a phregethwr yr efengyl, er fod dyddiau yr erlid wedi myned heibio erbyn hyn mewn llawer o ardaloedd y wlad. Bu yn foddion i roddi ysgogiad i Fethodistiaeth mewn amrywiol fanau yn y parthau hyn. Yn ngwaith Robert Evans, yn llafurio gyda'r ysgolion cylchynol, y rhoddwyd ail gychwyniad megis i'r diwygiad crefyddol yn rhanau isaf Sir Drefaldwyn. Cawsai y sir hon ei breintio, fel y crybwyllwyd, ag awelon cyntaf y Diwygiad. Daeth Howell Harris yma ar ei deithiau yn 1739 a 1741, ac argyhoeddwyd llawer ymhob odfa o'i eiddo, a glynodd llawer o'r pryd hwnw wrth grefydd. Arferai y Parch. Owen Thomas ddywedyd ei fod wedi bod yn siarad â hen wr yn Sir Drefaldwyn oedd wedi bod yn gwrando ar Howell Harris, ac meddai yr hen wr wrtho, "Yr oedd hwnw yn llefaru am uffern fel pe buasai wedi bod yn uffern, ac yn llefaru am y Nefoedd fel pe buasai wedi bod yn y Nefoedd." Yn y daith gyntaf hon o'i eiddo trwy y sir, yn ol pob tebyg, yr argyhoeddwyd Lewis Evan, o Llanllugan, ynghyd a rhai cynghorwyr eraill. Y mae coffadwriaeth Lewis Evan yn fendigedig. Bu mewn peryglon am ei einioes rai gweithiau yn ei deithiau trwy y Gogledd. Pan ar ei daith trwy Sir Feirionydd, anfonodd un o ynadon heddwch y Bala ef i garchar Dolgellau, ac yno y bu am haner blwyddyn. Er hyny, parhaodd i bregethu hyd nes yr oedd yn 72 mlwydd oed, a bu farw yn y flwyddyn 1792. Ffurfiwyd amryw eglwysi neu gymdeithasau bychain yn ardaloedd Llanllugan a Llanfaircaereinion er yn fore iawn. Yn nghofnodion Trefecca yr ydym yn cael fod Richard Tibbot yn cael ei osod yn ymwelwr cyffredinol y dosbarth hwn. Mae yntau yn anfon adroddiadau manwl am y Cymdeithasau i'r Gymdeithasfa yn ystod y blynyddoedd 1742—5. Yn Nghymdeithasfa Glanyrafon, Sir Gaerfyrddin (Mawrth 1af, 1742), mae Lewis Evan yn cael ei osod i gynorthwyo Morgan Hughes, "mewn gofalu am y Cymdeithasau yn Llanfair, Llanllugan, a Llanwyddelan." Ymhlith llawer o bethau, dywed Richard Tibbot yn ei adroddiadau,—"Mae derbyniad da i Lewis Evan ac Evan Jenkins gyda'r bobl gyffredin, a daw llawer i'w gwrando." Mewn adroddiad arall,—"Y mae genyf le i gredu fod Duw yn bendithio ac yn llwyddo Lewis Evan, Llanllugan, ac Evan Jenkins, Llanidloes."

Yr oedd yn Llanllugan y pryd hwn ugain o aelodau. Cadwent y cynulliadau (bands) y meibion a'r merched ar wahan. Anfona yr arolygwr hanes cyflwr a phrofiad pob un wrth eu henwau, mewn llythyr i'r Gymdeithasfa: un yn dywyll am ei gyfiawnhad; arall yn pwyso ar Dduw trwy ffydd; dau eraill dan y ddeddf; chwech yn gysurus eu profiad, heb fod i anghrediniaeth nemawr o oruchafiaeth arnynt; dwy o'r merched ieuainc yn mwynhau llawer o ryddid; naw eraill yn dywyll o ran eu gwybodaeth. Ac â llawer o ymadroddion cyffelyb yr adroddir am ddechreuad a chynydd y gwaith da yn eu plith. Ymhen blwyddyn ar ol Cymdeithasfa Watford, ysgrifena Richard Tibbot am y Cymdeithasau yn Sir Drefaldwyn, "Y maent wedi bod yn amddifad iawn o neb yn ymweled a hwy er Cymdeithasfa Watford. Y mae cri yn eu mysg am rywrai i ddyfod atynt, yn enwedig Mr. Rowlands." Yr oedd triugain a chwech o flynyddau wedi myned heibio er pan gynhyrfwyd y wlad trwy udgorn y Diwygiad gan Howell Harris, pan anfonodd Mr. Charles Robert Evans i'r cyffiniau hyn i gadw yr ysgol gylchynol. Yr amcan i gyfeirio at ddyddiau Howell Harris yn y sylwadau blaenorol ydoedd, yn un peth, er dangos fod rhanau o'r wlad heb eu gwareiddio eto, y pryd hwn, ar ol cymaint o amser. Gwaith mawr a graddol ydoedd troi Cymru baganaidd i fod yn Gymru wareiddiedig. Cafodd Robert Evans helyntion blinion i ddwyn y bobl yn y cyffiniau hyn i stat o wareiddiad, yn ogystal ag i addysgu ieuanc a hen i ddarllen Gair Duw. Fel hyn y rhydd ef ei hun yr hanes, pan yn henafgwr yn Llanidloes, i'r Parch. John Hughes, Liverpool:—

"Yn y flwyddyn 1808, mudwyd fi i Lansilin [o Langynog]. Dechreuwyd cadw yr ysgol mewn rhan o dŷ y tlodion, yn nghwr uchaf y pentref. Nid oeddwn yn gwybod am un crefyddwr o un enwad am dair milldir o gwmpas. Yr oedd achos crefyddol wedi bod yn y Lawnt, ond yr oedd hwnw wedi syrthio, y crefyddwyr wedi eu symud, rhai i'r bedd, a rhai wedi myned i ardal y Carneddau i fyw. Yr oedd yr holl fro, gan hyny, yn anialwch gwag erchyll, ac heb ddim ofn Duw yn y lle. Yr oedd yma, er hyny, un hen wr yn hoff o wrando, ac wrth ymddiddan âg ef, deallwyd mai dymunol fyddai gwneuthur cais ar ddwyn yr efengyl i le, heb fod ymhell, o'r euw Llangadwaladr. Penderfynwyd cynyg ar y gorchwyl, a chafwyd addewid am odfa yno ar ryw brydnawn Sabboth; ond aeth y son i glustiau gwrthwynebwyr, a chasglodd lliaws mawr o Lansilin, Cymdý, a Rhiwlas, yn llawn cyaddaredd, a lluchiwyd y pregethwr, a'i bleidwyr, â darnau o lechau; clwyfwyd llawer, ac yn eu mysg, tarawyd yr hen wr crybwylledig yn ochr ei ben; torwyd ei het, ac archollwyd ei ben yn dost. A phan welodd y pregethwr fod ei wrandawyr mewn perygl o gael eu hanafu, efe a ymataliodd ac a aeth ymaith, gan ysgwyd y llwch oddiwrth ei draed, a dywedyd, Mae yr efengyl yn gadael Llangadwaladr!'

"Ar ol mudo i Lansilin,' medd yr un gwr, 'gwnaed pob ymdrech i gadw ysgolion wythnosol Sabbothol, a nosweithiol. Sefydlwyd rhai yn Llansilin, Rhiwlas, Clynin, ac mewn tŷ ffarm yn agos i Moelfre. Cafwyd lliaws o blant i'r ysgolion, ond ni chaniatawyd i'r gwaith fyned rhagddo heb lawer o anghysuron a mân ymosodiadau; ac ymysg gofidiau eraill, pregethwyd yn fy erbyn gan weinidog y plwyf. Ond er pob gofid, cefais y fath hyfrydwch gyda'r plant, na anghofiaf dros fy oes. Rai blynyddoedd ar ol hyn, mewn odfa yn Cefn-canol, yr ardal nesaf, cefais yr hyfrydwch ychwanegol o weled amryw o'r rhai a fuasent yn blant yn yr ysgol yn Llansilin, yn awr yn ngafael iachawdwriaeth, yn canu ac yn gorfoleddu am y Gwaredwr. Golygfa na allaf ei hanghofio. Fel hyn, mewn amseroedd tywyll, a thrwy foddion disylw, y goleuodd yr Arglwydd ganwyll fechan yn Llansilin, Rhiwlas, Cymdý, &c., na ddiffodda, mi hyderaf, hyd ddiwedd amser.'

"Ar ddymuniad Mr. Charles ac wedi rhyw gymaint o arosiad, symudwyd i Laurhaiadr-yn-Mochnant. Cymerwyd hen ysgubor i gadw yr ysgol ynddi yn agos i'r bont. Daeth ychydig o blant ynghyd y prydnawn cyntaf; ond yr hyn a barodd gyffro anferth yn y lle hwn oedd fod yr athraw yn gweddio mewn hen ysgubor. Arferol oeddwn o ddibenu yr ysgol trwy ganu a gweddio! Cauwyd y drws yn ebrwydd rhagof, rhag na byddai yr ysgubor yn dda i ddim byth mwy. Gwnaed yr holl derfysg yma gan rai a ddylasent wybod yn well. Yn awr (1853), mae yma gapel prydferth, a chynulleidfa dda, a golwg obeithiol ar y gwaith."

Peth arall i'w weled yn yr hanes hwn ydyw, ei fod yn cytuno yn hollol, o ran amser a ffeithiau, a'r adroddiad a rydd Mr. Charles ei hun, mewn llythyr at gyfaill yn Llundain, yn y flwyddyn 1808, sef blwyddyn wedi i'r Parch. Robert Evans ddechreu ar ei waith gyda'r ysgolion. Fel hyn y dywed Mr. Charles yn ei lythyr:—"Y mae, hyd heddyw, lawer o leoedd tywyll mewn amryw ranau o'r wlad, ymha rai nid oes dynion addas, ac ewyllysgar hefyd, i osod Ysgolion Sabbothol ar droed. Ac am hyny, fy unig feddyginiaeth ydyw anfon Ysgolion Cylchynol i'r cyfryw leoedd..... Yn bresenol y mae ystor yr ysgolion yn isel iawn, yn llai na digon at haner y draul yr wyf dani y flwyddyn hon. Ar y cyntaf yr oeddwn yn cyflogi meistriaid am wyth bunt yn y flwyddyn; yn awr yr wyf yn talu pymtheg; fel yr oeddwn yn gallu cadw ugain y pryd hyny ar yr un gost a deg yn bresenol. Ac y mae yn ofid. arnaf am nad yw yn fy ngallu i osod mwy o ddysgawdwyr ar waith, gan fod eu heisiau yn dra amlwg mewn amryw ranau o'r wlad."

Bu y Parch. Robert Evans yn dra llafurus a llwyddianus gyda goruchwylion yr ysgol symudol. Yr oedd yn ddyn wedi ei dori allan i'r gwaith. Meddai gymhwysder arbenig i addysgu plant, a dawn i ganu: denai ef y plant, a denai y plant eu rhieni. Talodd y gwaith yn dda iddo yn y byd hwn. Bu yn foddion i wrthweithio llygredigaethau a hen arferion. annuwiol y wlad. Gwelodd lawer o ffrwyth ei lafur, er llawenydd annhraethol iddo ei hun. Y mae hanes am dano. yn cadw ysgol mewn llawer o fanau ar hyd Sir Drefaldwyn, y pen uchaf yn gystal a'r pen isaf,—yn y Drefnewydd; yn y Rhaiadr am flwyddyn gyfan, cyn bod y lle wedi ei osod o dan ofal Cenhadaeth y Deheudir; yn Camlan, ger Dinas Mawddwy, o 1815 i 1818. Yn y flwyddyn ddiweddaf a enwyd symudodd i Lanidloes i fyw, pan yn 34 mlwydd oed, wedi bod yn cadw yr ysgol am un mlynedd ar ddeg, ac yn pregethu am wyth mlynedd. Yr hyn a'i dygodd i drigianu yn Llanidloes ydoedd priodi gwraig grefyddol o'r enw Jane Thomas, yr hon oedd yn y fasnach wlaneni, ac yn chwaer i Mr. John Thomas, blaenor yn yr eglwys hono. Yn ol arfer yr oes hono gyda phregethwyr y Methodistiaid, cariai y wraig ymlaen y fasnach, a llafuriai ei phriod gyda gwaith y weinidogaeth, ynghyd a gofalu am yr eglwysi, a'r achos yn ei holl gysylltiadau, nid yn unig yn Llanidloes, ond hefyd yn y cymydogaethau cylchynol. Perthynai iddo yni blynyddoedd ei ieuenctyd trwy ei oes. Yr oedd yn barchus ymhlith pob graddau, a meddai ar ddoniau a gallu naturiol uwchlaw y cyffredin,—dawn siarad a phereidd-dra llais Ezeciel, llithrigrwydd a gwresogrwydd Apolos, a thystiolaeth pawb ydoedd. ei fod yn ddyn Duw.

Parhaodd amser ei ymdeithiad yn Llanidloes 36 mlynedd. Ac os oedd ei ddyddiau yn ei olwg ei hun yn ychydig a drwg, fel dyddiau Jacob, yn nghyfrif ei frodyr yr oeddynt yn llawer, ac yn dra llwyddianus. Wedi dyfod yn weddw ac yn unig, y mae yn gadael Llanidloes, Mai 10, 1854, ac yn symud i Aberteifi, trwy briodi Mrs. M. Evans, lle mae yn gwneuthur ei gartref am weddill ei oes. Ni byddai yn blino yn nyddiau ei henaint yn adrodd hanesion crefydd boreu ei oes yn y Bala, am Mr. Charles, a John Evans, a Mr. Llwyd. Tymor byr fu iddo yn ei gartref newydd, oblegid terfynodd ei yrfa ddaearol Awst 24, 1860; ac ar gyfrif ei gymeriad a'i wasanaeth, dangoswyd parch mawr i'w goffadwriaeth gan ei frodyr yn Aberteifi.

Nodiadau[golygu]