RHAGYMADRODD.
AR ddymuniad Cyfarfod Misol Dehau Aberteifi, a chymhelliad taer amryw o gyfeillion o'r Cyfarfod Misol Gogleddol, yr wyf wedi ymgymeryd â pharotoi y llyfr hwn i'r wasg. Rhoddais achau, dyddiadau, lleoedd preswylfeydd, &c., y personau sydd ynddo, mor fanwl ag yr oedd yn bosibl i mi, ond ni foddlonais ar hyny yn unig am gymaint ag un o honynt. Peth annifyr genyf yw edrych ar skeleton dyn yn annibynol ar ddim arall, a chymerais yn ganiataol mai teimlad cyffelyb fyddai gan y darllenwyr; felly, gwnaethum fy ngoreu i roddi y dyn i gyd, gorff ac enaid yn yr hanes.
Am y rhai y mae Cofiantau iddynt wedi eu hysgrifenu, nid oeddwn yn gweled angen ymhelaethu llawer am danynt, pa mor enwog bynag oeddynt yn eu dydd, gan nad oedd ein gofod ond cyfyng. Ymdrechais, hefyd, i gofnodi rhyw bethau am y cyfryw nad oedd yn eu bywgraffiadau. Fy amcan yn yr oll:—1. Oedd rhoddi golwg glir ar y gweinidogion, hyd yn nod i'r rhai na ddarfu iddynt eu gweled na'u clywed. 2. Dweyd y cwbl mewn mor lleied o le ag oedd yn bosibl; a gallaf sicrhau mai gwaith caled i mi oedd bod yn gynwysfawr wrth orfod bod yn fyr. 3. Dweyd rhywbeth am bob un y byddai meddwl y darllenwyr yn cael blas ac adeiladaeth wrth ei ddarllen.
Wrth edrych dros yr ysgrifau, rhoddais rai pethau i fewn, a thynais lawer allan. Yr wyf yn gwybod, pe byddwn yn myned drostynt eilwaith ac eilwaith y gwelwn lawer o ddiffygion, fel y mae yr arfer wrth adgyweirio pob peth. Am hyny, dymunaf ar