bawb—1. Roddi barn cariad ar y llyfr wrth ei feirniadu. 2. Rhoddi lles personol yn amcan blaenaf wrth fyned i'w ddarllen. 3. Roddi o'u blaen amcan mawr y llyfr, sef cyflawni dyledswydd arbenig eglwys Dduw i gadw coffadwriaeth am y rhai fu yn y swyddau uchaf yn ei gwasanaeth. "Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw ; ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt."
Fel rheswm dros beidio rhoddi neb i fewn ond pregethwyr ordeiniedig, rhaid ei ranu fel y canlyn:—1. Yr oedd ein penderfyniad i'r llyfr beidio bod dros swllt o bris mewn amlen, a deunaw mewn llian, a gwnaethum hyn wedi ymgynghori â llu mawr. 2. Yr oedd y rhai ordeiniedig yn ddigon eu hunain i lyfr felly, heb ddweyd llawer am yr un o honynt. 3. Os myned i ddechreu ar bregethwyr, yr oedd y cwestiwn yn dyfod, pa le i ddechreu, a pha le i derfynu, gan fod un neu ddau yn perthyn bron i bob capel, a chynifer a phump neu chwech yn perthyn i rai? 4. Yr wyf yn meddwl y bydd yn well gan y bobl yn gyffredin gael llyfr ar y rhai hyny eto rywbryd. Mae eu hanes genyf wrth law; dim ond ei drefnu sydd eisiau, gan fod y llafur o gasglu y defnyddiau wedi myned trwyddo er's rhai blynyddoedd. Caiff y neb a fyno y defnyddiau hyny genyf ar amod fechan, gan fy mod wedi blino yn y gwaith.
I Dduw pob gras y byddo y gogoniant am godi a donio y rhai y cofnodir eu henwau yma, gan ddymuno ei fendith eto i bregethwyr a ddarlleno yr hanes, ac i bawb eraill.
Ydwyf, yr eiddoch yn gywir,
JOHN EVANS.
- Abermeurig,
- Chwef. 22, 1894.