Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Salm lxxxix. 3. 2. Fod gwaith mawr ganddo i'w gyflawni,-prynu ei bobl gogoneddu priodoliaethau Duw-a gwneyd heddwch rhwng Duw a dynion. 3. Ei fod yn wrthddrych o ymddiried mawr. Yr oedd yn fwy peth i Dduw ymddiried gogoniant un briodoledd iddo nag i ni ymddiried ein oll iddo. Mae Duw wedi rhoddi gofal yr oll iddo er mwyn ein tynu ni i wneyd yr un peth. 4. Fod cyflog iddo am ei waith. II. LLWYDDIANT Y GWAS. 1. Fe lwyddodd i gymeryd achos pechaduriaid yn y cyfamod tragwyddol. 2. Llwyddodd i gymeryd dynoliaeth heb ei llygredd. 3. Llwyddodd i fyw bywyd sanctaidd, diddrwg, a dihalog. 4. Llwyddodd yn ei farwolaeth i gael buddugoliaeth ar ei holl elynion ef ei hun a'i eglwys. Mae ei fod wedi llwyddo yn ei daith o ddarostyngiad, yn sicrhau llwyddiant ei sefyllfa o ddyrchafiad. (1.) Gwelir hyn yn ei adgyfodiad, er gwaethaf yr holl rwystrau. (2.) Yn ei lwyddiant i gymeryd meddiant o'r nefoedd a'i holl anrhydedd. (3.) Mae wedi dangos lawer gwaith fod ei eiriolaeth yn llwyddianus yn y nef, i gael y peth a fyno. (Yma adroddodd hanes atebiad yr hen wraig, mai mynu chwareu teg i bechadur oedd Iesu yn wneyd wrth eiriol yn y nef). (4.) Mae digon o brofion y llwydda ei achos ar y ddaear nes cael ei holl eiddo adref,-efe sydd yn teyrnasu ar bob peth, mae yr addewidion i gyd iddo ef-ac y mae ewyllys yr Arglwydd yn dal i lwyddo yn ei law er pob rhwystrau. Mentrwch chwithau eich achos i'r un llaw a Duw, a sicrha hyny eich llwyddiant byth."

Parbaodd bywiogrwydd ei ysbryd, a'i ireidd-dra crefyddol hyd y diwedd; a phrofodd i bawb mai cynteddau tŷ ei Dduw oedd y lleoedd goreu ganddo ar y ddaear, gan fod yn rhaid iddo gael myned iddynt hyd bron adeg ei ymddatodiad, yn ei lanweithdra arferol, a'r cap du ar ei ben, yr hwn a fu yn foel am flynyddoedd lawer. Bu farw a'i bwys ar ei Anwylyd, a chladdwyd ef yn y cemetery. Mae amgylchiadau ei fywyd yn debyg i hyn. Dechreuodd bregethu yn Llanidloes pan yn 19 oed, sef tua'r flwyddyn 1805. Cadw ysgol am rai blynyddoedd. Byw yn Penygarn, gan ddilyn ei alwedigaeth fel gwneuthurwr dillad am oddeutu 17 mlynedd. Am y gweddill o'i oes yn Aberystwyth. Priododd â