Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Miss Mary Cleaton, Llanidloes, a chafodd ddigwyddiad o gyfoeth amryw droion yn ei oes.


Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
James Hughes (Iago Trichrug)
ar Wicipedia

PARCH. JAMES HUGHES, LLUNDAIN.

Mae Llundain yn cael ei chyfrif gyda Deheudir Cymru, a Liverpool gyda'r Gogledd. A chan mai un o'r sir yma oedd Mr. Hughes, mae i fod i fewn gyda'i frodyr. Pob un sydd wedi symud i siroedd eraill, er yn y Deheudir, mae y siroedd hyny yn eu cyfrif gyda hwy, yr un fath ag yr ydym ninau yn gwneyd â rhai o honynt hwythau.

Yr oedd Mr. Hughes yn fab i Jenkin ac Ellin Hughes, Neuaddd-du, lle y cedwir siop fechan yn awr, yn y tŷ sydd dan y ffordd, yn ymyl ysgoldy Ciliau Park. Yma y ganwyd ef yn 1779; ond yn fuan, symudodd ai rieni i Craig-y-barcut, yn Mhlwyf Ciliau eto, ac yno y bu farw ei fam. Darfu iddynt symud wedi hyny i Gwrthwynt uchaf, Plwyf Trefilan. Yma y treuliodd ei ddyddiau boreuol, yn bugeilio praidd ei dad ar hyd ochrau mynydd Trichrug; ac oblegid hyn y cymerodd y ffugenw Iago Trichrug fel bardd. Pan o 7 i 10 oed, cafodd fyned i'r ysgol a gedwid ar y pryd yn Eglwys Trefilan, gan Dafydd Gruffydd, Talfan, lle y dysgodd ddarllen Cymraeg yn bur dda. Nid oedd yr Ysgol Sabbothol wedi dechreu y pryd hwnw yn y Deheudir. Cafodd ysgol Saesneg hefyd yn yr un lle, yr hon a gedwid gan un Joseph Jones. Bu hefyd yn Cilcenin, mewn ysgol a gedwid gan y Parch. Timothy Evans, offeiriad y lle wedi hyny, ac ar ei ol gan Hugh Lloyd, mab Penwern, yr yr hwn a aeth yn offeiriad i Llanddewibrefi a Llangeitho, ac a fu byw yn Cilpyll. Dyna yr holl ysgol a gafodd, heblaw yr ychydig wythnosau a gafodd yn y Penant, gyda Daniel J. James, tad y diweddar Barch. James James, offeiriad Cilcenin a Llanbadarn.

Heblaw fod yr awen farddonol ynddo, cafodd hen lyfr barddonol a elwid "Bardd y byrddau," gwaith Jonathan Hughes, gan Edward Pugh, Berllandeg, yr hwn oedd yn gweithio llawer gyda'i dad. Cafodd lyfr arall a elwid "Y saith ugain Carol," gwaith Hugh Morris, gan un Morgan Gruffydd Richard. A dywedai ef ei hun y