Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

teithiai yr holl ardaloedd am lyfr barddonol, neu lyfr ar hanesiaeth Gymreig, ac na chollodd flas at y pethau hyn trwy ei oes. Ni chafodd fawr o fanteision crefyddol yn moreu ei oes. Yr oedd ei dad a'r plant yn myned i wrando at yr Annibynwyr i Cilcenin, a'i lysfam yn gwrando yr Arminiaid yn Ciliau. Nid oedd swn addoli byth yn nheulu y Gwrthwynt, ond yr oedd yno lawer o swn cynhenu a difrïo rhwng y lysfam a'r ddau fath o blant. Cafodd ef beth argraff o ofn marw ar ei feddwl wrth wrando y Parch. David Davies, Abertawe, yn pregethu yn Cilcenin. oddiar y geiriau, "O fewn y flwyddyn hon y byddi farw," ond collodd y dylanwad yn fuan. Yr oedd pregethu cyson y pryd hwnw yn y Gelli, ger Trefilan, gan y Methodistiaid, a byddai yntau yn myned yno y nos yn fynych, ar ol rhoddi y praidd yn y gorlan. "Yr oeddwn yn hoff iawn," meddai, "o lefarwyr y Corff hwnw, gan mor danllyd, bywiog, a pheraidd y byddent yn pregethu. Byddai yno awelon hyfryd a gorfoledd mawr yn gyffredin, a chawsai hyny argraff mawr ar fy meddwl inau. Pan na allwn fyned yno, bum lawer gwaith gyda'r nos yn yr haf yn gwrando arnynt yn canu ac yn gorfoleddu; myfi ar ben bryn uchel ar dir fy nhad, a hwythau odditanaf yn myned i'w cartrefleoedd ar hyd dyffryn Aeron. Yr oedd megis nefoedd genyf glywed sain cân a moliant y tyrfaoedd hyn; a byddai yr un effeithiau a'r tywalltiadau arnaf finau lle yr oeddwn, ac ymollyngwn i orfoleddu wrthyf fy hun, er nas gwnawr. hyny pan yn y dorf."

Crybwylla am ddau beth arall a effeithiodd arno. "Yr oedd gwr crefyddol o'r enw David Jenkin, o'r Gilfach, yn gweithio am rai misoedd o'r bron gyda fy nhad, ac yn darllen a gweddio bob amser, nos a boreu, yr hyn oedd yn gadael argraff ddaionus arnaf, ac ni ddilëwyd ef hyd y dydd heddyw. Yr oedd arnaf ofn y gwr hwn yn fy nghalon, ac ni fynwn iddo fy ngweled yn gwneyd drwg, na fy nghlywed yn dweyd geiriau cas. Peth arall a effeithiodd arnaf yn fawr oedd troedigaeth amlwg gwr ieuanc gwyllt ac annuwiol oedd yn was yn Perthneuadd, ac yn enwedig ei farwolaeth sydyn ar ol ei droedigaeth. Aeth adref yn ddiau yn ei gariad