Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyntaf; ac yr oeddwn i a phawb eraill yn ei ystyried yn bentewyn wedi ei gipio o'r tân."

Aeth ei dad i America, gan gytuno a'r mab hynaf am y lle, a rhoddi hyn a hyn i'r plant eraill. Pan yn 16 oed, prentisiwyd Mr. Hughes gyda David Jenkins, Gof, Tynant, Gartheli. Gof oedd ei dad, ond ei fod hefyd yn cadw tir. Yr oedd erbyn hyn wedi colli llawer o'i deimladau crefyddol, a gwelai bobl Llangeitho ac Abermeurig yn rhy bendrymaidd iddo ef eu hoffi. Ond ni pharhaodd y casineb hwnw yn hir, gan iddo ef ddyfod yr un fath a hwy yn fuan, ar ol gwrando Dafydd Parry, Brycheiniog, yn y Gelli ar nos Sabbath. "Nid wyf yn cofio yr un gair o'r bregeth hono," meddai, "ond yr wyf yn cofio fod rhyw bereidd-dra rhyfedd yn llais y pregethwr, a rhyw dywalltiadau nefol ar y gynulleidfa, Tua chanol y bregeth, disgynodd rhywbeth grymus a hyfryd iawn ar fy meddwl inau, fel nas gallwn yn fy myw ymatal heb waeddi 'Amen' yn lled uchel. Clywodd amryw fi, ac edrychasant arnaf gyda gwên siriol o lawenydd a dagrau. Ar y ffordd adfef, cefais gyfeillach hyfryd gyda rhai o bobl ieuainc y seiat, ac yr oedd ynof ryw deimladau gwahanol i ddim fu ynwyf er's blynyddau, os erioed o'r blaen, fel y penderfynais roddi heibio dyngu a rhegi, a rhaid oedd gweddio am hyny, yn gystal ag am bethau eraill." Parhaodd yr argraffiadau nes iddo fyned i ymofyn am le yn nhy Dduw; ac wedi cael caniatad ei feistr, aeth i Langeitho ddydd gwaith, a chafodd ei dderbyn, pan oedd Edward Watkin yno yn pregethu ac yn cadw seiat. Dywedodd Morgan Jenkin, Ty'nrhos, yr hwn a adwaenai ei rieni yn dda, fod ei droedigaeth ef yn debyg i alwad Abraham o Ur y Caldeaid, gan nad oedd wedi cael fawr o addysg nac esiampl grefyddol. Gwr anystyriol oedd ei feistr, ond yr oedd yn ganwr da, ac yn arfer myned i ddysgu canu i'r Llanau a'r capelau; a chan fod James Hughes yntau yn ganwr, yr oedd yn myned gydag ef, ac yn rhoddi help mawr i'r athraw. Ond ni wnaeth y cyfarfodydd hyny les i'w grefydd, gan fod llawer o feibion a merched ieuainc ysgafn yn dylanwadu arno i fod yr un