Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fath a hwy yn fynych, hyd nes torodd diwygiad allan, pan oedd yn agos i ddiwedd ei ddwy flynedd brentisiaeth.

Ar ol gorphen yn Tynant, aeth at Sion Evan Dafydd, i Llanddewi, Aberarth, lle y bu am dri mis, am ddeunaw ceiniog yr wythnos. Daeth cenadwri ato yn awr oddiwrth Wil Sion Hugh, Ffynongeitho, yn ei hysbysu fod arno eisiau gweithiwr. Gan ei fod yn dra hoff o Llangeitho, a bod y gwaith yn Aberarth yn rhy galed iddo, yno yr aeth am dair punt yn y flwyddyn. Yna aeth y gwaith yn brin a'r glo yn ddrud, fel y gorfu arno ef adael y lle. Yn ffair gyflogi Aberaeron, cyfarfyddodd â chefnder iddo, yr hwn oedd wedi bod yn Llundain bedair blynedd; ac ar gymhelliad hwnw, penderfynodd fyned gydag ef yn ol. Nid oedd ganddo ond punt yn ei logell, ac wrth newid hono mewn tafarndy yn Llanbedr, cafodd haner coron drwg. Yr oeddynt dri o honynt yn cerdded trwy Llanymddyfri ac Aberhonddu; ac o'r lle hwn cawsant ryw fath o gerbyd i'w cludo i'r Feni, a'r tro cyntaf iddo ef yn ei fywyd fod o fewn un math o gerbyd. Darfu yr arian ganddo ef yn fuan, ac nid oedd ond benthyca, fel yr oedd arno ddyled o un swllt ar ddeg erbyn cyraedd Llundain. Cafodd waith am ychydig ddyddiau yn Whitechapel; wedi hyny yn Yard y Tycoch, yn Deptford, lle yr oedd llawer o Gymry. Bu yno am flwyddyn a naw mis; ond gorphenodd rhyw ryfel oedd rhwng y wlad hon a Ffrainc ar y pryd, a throwyd ef a chanoedd eraill ymaith o'r herwydd. Yr oedd hyn yn 1801. Ond yr wythnos olaf o'r flwyddyn a nodwyd, cafodd waith yn Dockyard y brenin, a bu yno hyd 1823. Yma yr oedd pan ddechreuodd bregethu yn 1810, a phan ordeiniwyd ef yn Llangeitho yn 1818. Yma yr oedd pan ddysgodd reolau barddoniaeth, a phan gyfansoddodd y rhan fwyaf o'i ddarnau barddonol. Ond yr oedd awydd pregethu arno, a phregethodd ganwaith i'r defaid, yr eithin, a'r nentydd, pan yn bugeilia ar Trichrug. Gan fod hanes Mr. Hughes yn wybyddus o hyn allan, gadawn ef, gyda dweyd iddo ddechreu cyfansoddi ei esboniad gwerthfawr yn 1829. Gorphenodd y Testament Newydd yn 1835. Yna cychwynodd ar yr Hen Destament, ac aeth ymlaen hyd Jeremiah xxxv. Trwy