Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddirfawr boen yr oedd yn fynych yn ysgrifenu. Yr oedd rhyw iasiau enbyd trwy ei gorff; a phan fyddai hyny yn annioddefol, cyfodai ac ysgydwai nes iddynt lonyddu; yna elai yn ol at ei waith drachefn. Bu farw yn ei dy yn Rotherhithe, Tachwedd 2, 1844, pan yn 65 oed. Ei eiriau olaf oedd, " Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd." Claddwyd ef gyda'r holl enwogion yn Bunhillfields. Yr oedd yn bregethwr rhagorol o ran mater, ysbryd, llais, a thraddodiad, Yr oedd yn un o'r ieithwyr Cymreig goreu yn nghyfrif Dr. William Owen Pughe, â'r hwn yr oedd yn dal llawer o gyfeillach.

J

PARCH. JOHN JAMES, GRAIG.

Mab ydoedd i Pencwm Mawr, Llangwyryfon, a brawd i'r diweddar David James, Gilfachcoed, yn yr un plwyf, blaenor yn Tabor; James James, Ysw., U.H., Ffynonhywel; a Thomas James, blaenor yn Stepney, Llundain. Yr oedd ef yn un o'r tô cyntaf o efrydwyr Trefecca. Ar ei briodas, symudodd i ardal y Graig. Yr oedd felly yn y darn uchaf o'r six, fel yr oedd Sir Felrionydd a Sir Drefaldwyn yn cael mwynhau ei weinidogaeth hytrach yn fwy na'r sir ei hun. Yr oedd yn dueddol i iselder ysbryd; a chan ei fod o duedd meddwl gochelgar a meudwyaidd, ni chafodd Cyfarfod Misol ei sir fawr o'i wasanaeth, ac ni fynai ar un cyfrif, fyned ymhell o'i gartref. Er hyny, dyn anwyl iawn ydoedd, a chyfaill ffyddlawn. Ffermwr fu bron drwy ei oes, a dyn tawel a myfyrgar. Myfyriodd lawer ar hyd meusydd a ffyrdd Ynysheidiol, lle yr oedd yn byw, yn ngolwg y môr, a'r afon Dyfi, ynghyd a mynyddoedd Siroedd Caernarfon, Meirionydd, ac Aberteifi. Er hyny, nid aeth ef yn debyg i natur yn y lleoedd hyny, ond yn ei hoffder o dywydd teg a thawelwch. Mynach fu ef, yn byw o fewn muriau hen fynachlog, allan o swn y byd a'i bla. Pa fodd bynag, cafodd gorthrymderau afael ynddo; claddodd ddwy o wragedd o'i