Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flaen, ac ymaflodd clefyd angeuol yn ei gyfansoddiad; ac er myned dan operation yn Llundain, marw fu raid, a hyny ar y dydd cyntaf o Ebrill, 1880, pan yn 60 oed, a chladdwyd ef yn mynwent capel y Methodistiaid yn Talybont.

Dyn o daldra cyffredin ydoedd, gwallt du, hytrach yn gyrliog; wyneb tywyll a chrwn. Siaradai yn araf, gyda llais hyglyw a chryf. Yr oedd ei bregethau bob amser yn dda, ac yn llawn o feddwl a choethder, ac yr oedd yn gymeradwy iawn yn yr holl leoedd fyddai yn cael ei weinidogaeth. Pe buasai yn feddianol ar fwy o ysbryd cyhoeddus a hunan ymddiried, gallasai ei farn addfed, ei gallineb rhagorol, a'i alluoedd fel pregethwr, sicrhau iddo le o anrhydedd mawr. Cafodd adnewyddiad amlwg yn niwygiad 1859, a phregethai yn fynych gyda dylanwad rhyfedd. Pan yn Tywyn, un Sabbath, dywedai, "Yn y gwarchae caled fu ar Lucknow yn rhyfel mawr yr India, yr oedd disgwyliad pryderus am General Havelock i'w gwaredu. Dywedai hen wraig yno ei bod wedi clywed ei swn yn dyfod, pa fodd bynag y bu hyny. Nid oedd eraill yn ymwybodol o'r un peth. Daeth o'r diwedd i'r golwg, a gwaredodd y dref. Clywed am y diwygiad o draw yr ydych chwi yn Tywyn, ond daw y General mawr yn y man." Daeth llawer i'r seiat y noson hono. A dywedai Mr. Rees, y blaenor, am yr odfa yn y Cyfarfod Misol ar ol hyny, nes oedd yr holl le yn foddfa o ddagrau.

Gwyddai yn dda pa bryd, a pha fodd i wneyd defnydd o gymhariaethau. Yr oedd llawer o'r bobl ieuainc yn y diwygiad yn barod i wneyd defnydd o'r hyn a wyddent am grefydd, ac i ddysgu rhai o'r hen bobl brofiadol yn ei chylch. Portreada y rhosyn blodeuog diweddar yn dysgu yr hen dderwen gauadfrig. Yn mhellach dywedai, "Yr oedd dyn ieuanc yn ymweled â hen grefyddwr, ac yn dweyd wrtho rywbeth a wyddai am Iesu Grist. Diolch i chwi am eich cyfarwyddyd, meddai yr hen sant, mae y Gwr yr ydych yn son am dano a minau yn ffrindiau er's mwy na 40 mlynedd."

Pan yn dioddef yn yr hospital yn Llundain, aeth Mr. James, ei