Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

frawd, blaenor presenol Stepney, a llythyr y Cyfarfod Misol ato i'w ddarllen. Dywedai, "Dyma lle yr wyf yn ceisio ymdreiglo ar Salm xlvi., ac y mae yn wir yn yr hospital." Dywedai hefyd, "Cefais lawer o nerth trwy y geiriau hyny, 'Gorchymynaist fy achub;' gweled fod y Gwr wedi rhoddi orders am fy achub, nid wyf yn gweled y gellir fy namnio mwy." Pan oedd ei frawd yn cyfeirio at y cysur a'r calondid oedd mewn bod ei frodyr yn y Cyfarfod Misol yn cofio ato, ac yn gweddio drosto, dywedai, "Ië, mae llawer yn hyny."

PARCH. MORGAN DAVID JONES James[1], RHIWBWYS.

Mab ydoedd i David James, fu yn flaenor yn Bronant. Yr oedd yn awyddus iawn am addysg a gwybodaeth er yn ieuanc, ac fel y cyfryw, aeth i Ysgol Normalaidd, Aberhonddu, prifathraw yr hon oedd Dr. Evan Davies, yr hwn a symudodd wedi hyny i Abertawe. Wedi hyny, aeth i gadw ysgol yn Whitland, Sir Gaerfyrddin. Gan nad oedd achos Methodistaidd yn y lle y pryd hwnw, ymaelododd gyda'r Annibynwyr, yn Henllan; a dywedai trwy ei oes am y gweinidog rhagorol oedd yno ar y pryd, sef y Parch. J. Lewis. Gwelodd y gweinidog fod yn y dyn ieuanc ddefnyddiau i wneyd pregethwr, ac anogodd ef yn daer i ddechreu, ac felly y bu. Er mwyn ymbarotoi i fyned i'r Coleg, aeth i Ysgol Ramadegol oedd ar y pryd yn Solfach, Sir Benfro. Tra yno, anmharodd ei iechyd yn fawr, a theimlodd oddiwrtho trwy ei oes, yn enwedig trwy y dolur oedd yn ei wddf, yn ei rwystro i lyncu ei ymborth, ond gydag anhawsdra. Wedi dyfod adref i Bronant, oblegid ei waeledd, a chael llawer o adferiad, torwyd ato gan y Parch. Thomas Evan, Aberarth, i'w gymell i ddyfod yn ol at y Methodistiaid, a hyny fu y moddion cyntaf i'w ddwyn yn ol.

Bu am rai blynyddau yn cadw ysgol yn Aberaeron, ac wedi ymbriodi à Miss Evans, Shop, Llanon, aeth i Rhiwbwys, lle y bu yn cadw y fasnach ymlaen am y gweddill o'i oes, yn agos i'r Ffrwd i ddechreu, ac wedi hyny yn y ty newydd a gododd, yr hwn a elwir London House, lle y mae ei weddw yn awr. Yr oedd ei ddawn

  1. Drwy amryfusedd y cysodydd, rhoddwyd yr enw yn Morgan David Jones ar tudal 75, yn lle Morgan David James