Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymadrodd yn uwchraddol, ei iaith yn hedegog a choeth, a dywedai mewn haner awr fwy na llawer mewn awr. Yr oedd o feddwl athronyddol, ac yn ymresymwr cadarn. Cafodd ysbryd newydd a chorff newydd, mewn cymhariaeth i'r peth oedd, yn niwygiad 1859. Daeth allan gyda nerth anorchfygol i gymeryd y wlad trwy Dde a Gogledd, a chwympwyd llawer o gedyrn trwyddo. Gwnaeth ei bregeth ar y geiriau, "Rhoddaf eu ffordd eu hun ar eu penau,' daflu cynulleidfaoedd mawrion i'r annhrefn mwyaf, os annhrefn hefyd, yn yr olwg ar berygl yr annuwiol dan bwysau eu ffordd, ac yn yr awydd a'r gwaeddi am waredigaeth. Gwnaeth ei bregethau ar yr adnodau canlynol les i lawer,—" Canys yr ydys yn ein rhoddi ni y rhai ydym yn fyw, yn wastad i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni. Profwch chwychwi eich hunain, holwch eich hunain, a ydych yn y ffydd; ai nid ydych yn eich adnabod eich hunain, sef bod Crist ynoch, oddieithr i chwi fod yn anghymeradwy." Yr oedd llawer o athroniaeth yn dyfod i'r golwg yn y pregethau y cyfeiriwyd atynt, ond yn fwy wrth bregethu ar y geiriau,—"Anrhydedd Duw yw dirgelu peth."

Mynai rhai ei fod y pregethwr mwyaf, ar rai cyfrifon, o bawb yn y sir, a mynent ei roddi yn y lleoedd mwyaf amlwg i bregethu, a diameu yr enillasai le llawer uwch nag a wnaeth, pe buasai ganddo gorff yn ateb i'w feddwl, pe buasai yn ymryddhau yn fwy oddiwrth fasnach, ac yn myned yn amlach i gyfarfodydd ei sir. Bu yn hir yn glaf, a bu farw Mai 16, 1870. Claddwyd ef yn mynwent capel Rhiwbwys, ar ol pregethu am fwy nag 20 mlynedd. Cafodd ei ordeinio yn Llangeitho, yn 1859. Mab iddo yw y Parch. T. E. James, gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Rhosycaerau, Sir Benfro, yr hwn a aeth at yr enwad hwnw, fel ei dad, a hyny pan yn cadw ysgol mewn pentref lle nad oedd Methodistiaid. Yr oedd Mr. James yn ddyn cyffredin o daldra, cnwd o wallt du ar ei ben, nes iddo lasu, wyneb gwelw, teneu, ac ol y frech wen arno. Llygaid llym a threiddgar, a chorff ysgafn a theneu. Mae traethawd o'i eiddo, yr hwn a ysgrifenodd pan yn cadw ysgol yn Solfach, ar gael. Dy-