Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fynwn frawddeg, neu ragor, gan ei fod yn dangos y dyn bron trwy ei oes. "Y meddwl dynol," yw y testyn,—"Pe gollyngem ein llygaid hydreiddiawl i fanwl graffu ar ryfeddodau y bydysawd creadigol, ni chanfyddem yr un ysmotyn, o fewn cylch eang ein cyrhaeddiadau, lle yr amlygir ol bysedd y Jehofah i'r un perffeithrwydd diymwad a'r meddwl dynol. Hwn ydyw addurn a gogoniant creadigaeth Duw.'" "Oni allwn gasglu y bydd ei gynydd yn dragwyddol fel ei fodolaeth, ac y bydd ei alluoodd i deimlo yn ei gysylltiad â gwynfyd ac â gwae yn hollol gyfartal i'w fawredd naturiol a byth-gynyddol."

PARCH, EDWARD JONES, ABERYSTWYTH.

Mab ydoedd i Edward a Mary Jones, Rhiwlas, plwyf Llanfihangel-geneu'r-glyn, yn agos i'r Borth. Ganwyd ef Medi 11, 1790. Cafodd ei addysgu i fod yn gyfrwywr, er na wnaeth fawr o'r alwedigaeth, gan iddo fyned ymhell uwchlaw y byd trwy ymbriodi â Miss M. Davies, chwaer i'r enwog Mr. Robert Davies, Aberystwyth. Aeth i Lundain pa yn 20 oed, pryd y cafodd gyfleusdra i wrando John Elias yn pregethu oddiar y geiriau, "Na fydd ry annuwiol, ac na fydd ffol, paham y byddit farw cyn dy amser?" Gwnaeth y bregeth ef yn derfysglyd iawn am ei gyflwr fel pechadur, ac yn y terfysg yma yr oedd pan y symudodd i Bristol, lle y clywodd y Parch. John Evans, Llwynffortun, yn pregethu oddiar y geiriau, "Pa hyd yr ydych yn cloffi rhwng dau feddwl?" Yma y gorphenwyd ei argyhoeddiad, ac y penderfynodd o du yr Arglwydd am byth. Ymddengys iddo golli ei hun yn hollol yn yr odfa, gan ei fod ar y dechreu yn agos i ddrws y capel, ond erbyn y diwedd yn pwyso ar y cor mawr o dan y pulpud. Pan ddaeth i'r seiat yno, dywedodd y blaenor wrtho, os caffai grefydd dda, y gwnelai ei ddysgu pa fodd i wisgo ac i drin ei wallt, a phethau cyffelyb, a gwnaeth iddo orphen y seiat trwy weddi. Yn foreu dranoeth, aeth at yr eilliwr i dori ei wallt, a newidiodd bob peth yu ei wisg oedd yn debyg o fod yn dramgwydd i'r dynion goreu. Gwelir y Cristion a'r pregethwr am ddyfodol ei oes, yn amgylchiad-