Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

au ei gychwyniad gyda chrefydd, gan na fu neb mwy manwl nag ef gyda'r ddisgyblaeth a'r holl drefniadau eglwysig.

Wedi dyfod adref i'r Borth, synodd pawb wrth weled y cyfnewidiad amlwg oedd ynddo. Yr oedd ei allu meddyliol, ei ofal am foddion gras, a'r rhan bwysig a gymerai ynddynt, y fath fel y gwnaed ef yn flaenor, Gorphenaf 20fed, 1815. Trwy gymhelliad taer yr hen flaenor enwog Richard Jenkins, Gwarallt, dechreuodd bregethu Mai 24ain, 1818. "Y mis canlynol," meddai ef ei hun, "sef Mehefin 9fed, yn Nghyfarfod Misol y Garn (Pengarn), derbyniwyd fi i bregethu trwy y sir, ac yn bregethwr y Cyfundeb yn Nghymdeithasfa Llangeitho, Awst 19, 1818. Neillduwyd fi drachefn, yn yr un lle, i gyflawn waith y weinidogaeth, Awst 7, 1829, yr un pryd a'r Parch. David Jenkins, Llanilar, yr hwn a aeth i America." Gallwn feddwl fod y rhai oedd wrth y llyw y pryd y derbyniwyd ef yn bregethwr y sir a'r Gymanfa, yn fwy rhyddfrydig a goddefgar nag y gwelwyd llawer ar eu hol. Derbyniwyd David Evans, Aberaeron, bron yr un fath. Ond yr oedd Mr. Evans ac yntau wedi myned ymlaen mewn oedran cyn dechreu; yr hyn oedd yn fwy rhyfedd gyda Mr. Evans, oedd iddo gael ei dderbyn yn aelod eglwysig, a'i wneyd yn bregethwr, mewn llai na chwarter blwyddyn. Mae yn wir nad oes rheolau neillduol gyda golwg ar amser y derbyniadau crybwylledig. Mae y cwbl yn dangos fod Mr. Jones yn un o bwysau neillduol fel dyn call, Cristion addfed, a blaenor eglwysig o radd uchel, yr flaenorol i hyn, ac felly dywedwyd "Duw yn rhwydd " wrtho ar unwaith.

Nid fel pregethwr y darfu iddo ddyfod yn fawr ac yn enwog. Yr oedd yn bregethwr da, ond fel dysgawdwr, amddiffynwr, a blaenor y Cyfundeb, yr oedd ei ragoriaeth ef ar ei frodyr yn gynwysedig. Dysgai lawer wrth bregethu. Unwaith ar brydnhawn Sabbath trymaidd, yn Pontsaeson, oddiar Actau ii. 47, dysgai y gynulleidfa ar ystyr y gair eglwys. "Mae yn arferiad," meddai, "yn y wlad i alw Llan y plwyf yn eglwys, ond gyda'r anmhriodoldeb mwyaf, ac yr ydych yn gwneyd cam â'r Beibl wrth alw adeilad o goed a maen felly yn Eglwys. Dysgwch alw yr