Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adeilad yn Llan y plwyf, neu dy y plwyf. Ty y plwyf ydyw, a phobl y plwyf sydd yn ei gynal a gofalu am dano, a hyny yn wahanol i bob lle arall." Cynhyrfwyd y cyfarfod yn fawr gan blentyn bach wedi cael ei ollwng yn rhydd i redeg ar hyd llawr ystyllod y capel, a threuliodd gryn amser i gael y fam at hwnw, a dysgu y bobl pa fodd i ymddwyn at y plant. Dysgai y lleoedd y byddai y Cyfarfod Misol ynddynt i gadw eu golwg ar bregethwyr ieuainc addawol i'w rhoddi i bregethu brydnhawn cyntaf y cyfarfod; ond nid oeddynt yn foddlawn gwrando arno. Beth bynag, pan gyhoeddid ef i bregethu, gwelai y fantais i roddi rhyw ddyn ieuanc yn ei le; a bron yn ddieithriad, byddai y cyfryw yn cael odfa dda, fel y byddai pobl y lle yn canmol rhyddfrydigrwydd Mr. Jones, yn y diwedd, er yn digio wrtho ar y dechreu am dori eu cynllun. Cafodd y Parch. Robert Thomas, Garston, pan yn ddyn ieuanc, odfa adawodd argraff ryfedd ar y wlad, yn Nghyfarfod Misol Bethania; a rhyw John James, o Blaenanerch, os ydym yn iawn gofio ei enw, a pha un ai o'r lle a enwyd yr oedd, neu ynte o ardal arall; ond yr oedd yr hen bobl yn dweyd, er fod ei gorff yn wan, a'i lais yn wanaidd, ei fod yn "pregethu fel angel." Bu farw yn fuan ar ol hyny, rhywle tuag ardal Pengarn. Fel hyn yr oedd Mr. Jones yn codi y bobl ieuainc i sylw, ac yn rhoddi ysbryd newydd yn y bobl ieuainc eu hunain.

Dysgai y pregethwyr i fod yn ostyngedig a hawdd eu trin, wrth fyned i bob lle ar hyd y wlad i bregethu a lletya. "Mae dynion," meddai, "yn dweyd wrthyf fi, weithiau, fy mod yn fwy gostyngedig na llawer o rai mwy tlawd na mi. Ond nid ydynt yn ystyried fod fy nhipyn eiddo i yn gwneyd i fy ngostyngeiddrwydd i ymddangos yn fwy. Mae genyf fi, felly, well mantais na chwi-gan enwi amryw. Mae yn gywilydd genyf na byddwn yn pregethu yn well, ac na byddwn yn fwy bendithiol i'r bobl, wrth eu gweled yn rhoddi eu pethau goreu i mi." Dangosodd y fantais uchod ar ginio unwaith yn Bethel. Daeth ef yno heb neb yn ei ddisgwyl, pryd mai Evan Edwards, Blaenpenal, oedd yn y daith. Wedi ei weled, gwylltiodd y rhai oedd â gofal y bwydydd arnynt. Wedi i